Mae ffigurau sydd wedi’u canfod gan y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos bod y rhan fwyaf o’r arian sydd ar gael drwy’r Gronfa Trawsnewid Trefi’n mynd i drefi’r de ar draul y gogledd.

Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Darren Millar, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, cadarnhaodd un o weinidogion Llywodraeth Cymru mai dim ond 19% o’r arian o’r gronfa sy’n mynd i’r chwe sir yn y gogledd.

Mae’r gogledd wedi derbyn £44,908,197 tra bod £40.2m wedi’i wario yn sir Abertawe.

Yn Sir Ddinbych roedd y gwariant mwyaf yn y gogledd – dim ond £12.5m – tra bod £10.6m wedi’i wario yn sir Wrecsam.

Derbyniodd y de gyfanswm o £152,557,532 ac mae hynny’n cyfateb i 65% o’r holl gronfa, gyda’r £37,399,621 (16%) yn mynd i bedair sir yn y gorllewin a’r canolbarth.

Mae’n golygu bod siroedd y gogledd, ar gyfartaledd, wedi derbyn llai o arian nag yn unrhyw le arall yng Nghymru – gyda chyfartaledd o £7.5m – tra mai £12.7m oedd y gyfartaledd yn y de a £9.4m yn y canolbarth a’r gorllewin.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, caiff yr arian sydd ar gael drwy’r gronfa, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2020, ei ddyrannu fesul rhanbarth gyda chynigion ar gyfer prosiectau mewn trefi penodol yn cael eu blaenoriaethu gan awdurdodau lleol yn unol â’u hamcanion strategol.

‘Ergyd arall i bobol yng ngogledd Cymru’

“Mae hon yn ergyd arall i bobol yng ngogledd Cymru ac mae’n tanlinellu’r rhaniad rhwng y gogledd a’r de sydd wedi datblygu o dan Lafur,” meddai Darren Millar, llefarydd gogledd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig.

“P’un ai buddsoddi mewn ffyrdd, metros neu ganol trefi ydi o, mae gogledd Cymru bob amser fel pe bai’n chwarae ail feiolin i’r de, mae’n gwbl annerbyniol bod gweinidogion Llafur yn trin y rhanbarth yn y fath fodd.

“Mae angen deddfwriaeth arnom i sicrhau bod pob rhan o Gymru’n derbyn cyfran deg o’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, nid dim ond yr ardaloedd hynny sy’n cael eu ffafrio gan y Blaid Lafur.

“Mae hi’n anghyfiawn fod y Llywodraeth Lafur yn parhau i ffafrio’i chadarnleoedd yn y de yn hytrach na rhannu’r arian ar gyfer prosiectau adfywio pwysig yn decach ledled Cymru.”