Eirian Dafydd o Gaerdydd yw enillydd cystadleuaeth cyfansoddi geiriau emyn Dechrau Canu Dechrau Canmol.
60 ymgais ddaeth i lawr ar gyfer y gystadleuaeth i ddathlu pen-blwydd y gyfres boblogaidd ar S4C yn 60 oed.
Yn ôl y beirniaid, Catrin Alun a’r Prifardd John Gwilym Jones, mae’n rhaid i eiriau emyn fod yn gofiadwy, yn brofiad personol ac yn adlewyrchu taith Cristnogion.
Dywedodd John Gwilym Jones fod un ymgais wedi sefyll allan, gyda Catrin Alun yn dweud bod y geiriau buddugol “wedi fy stopio i yn fy nhracs”.
“Roedd na un wedi sefyll mas ac wedi apelio o’r dechrau” meddai John Gwilym Jones.
“Mae’r emyn yn sôn am deimlo’r llaw, y llaw sy’n iachau, wel mae rhywbeth fel’na yn gafael ar unwaith yn enwedig yng nghyfnod y pandemig.”
“Fe wnaeth yr emyn yma fy stopio i yn fy nhracs, a dyna’r unig un wnaeth hynny” ychwanegodd Catrin Alun.
“Mae’r mesur yn wahanol iawn ac ar y dechrau doeddwn i ddim yn siŵr os oedd hynny’n broblem, ond na, dwi’n meddwl fod hynna’n fanteisiol achos bydd rhaid cael tôn newydd.”
Ymateb yr enillydd
Meddai Eirian Dafydd:
“Ro’n i yn ymwybodol bod nifer o Eglwysi wedi cau dros gyfnod y pandemig, mae yna aelodau wedi encilio i ffwrdd ac y syniad o ddod yn ôl oedd gen i ddechrau,” meddai Eirian Dafydd.
“I fi, roedd hynna yn ffitio i mewn gyda dameg y Mab Afradlon – rhywun yn encilio, ond yn dod yn ôl.
“Mae yna hefyd brofiad personol yn rhan o’r ail bennill – pan o’n i’n iau fel wnes i dreulio sawl cyfnod yn yr ysbyty ac yn ystod y cyfnod yna fe es i i oedfa gyda’r weinidogaeth i iachau.
“A dyna sydd tu cefn i’r geiriau.”
Cystadleuaeth newydd
Gyda’r geiriau yn ddiogel felly, mae Dechrau Canu Dechrau Canmol nawr wedi cyhoeddi cystadleuaeth newydd i gyfansoddi emyn dôn i gyd-fynd gyda geiriau Eirian Dafydd.
Bydd gwobr o £200 i’r enillydd a’r gobaith yw y bydd y cyfanwaith newydd yn cael ei berfformio ar Dechrau Canu Dechrau Canmol cyn diwedd y gyfres.
Y dyddiad cau yw Ebrill 29, ac mae’r holl fanylion ar wefan S4C.
Gweddi’r Pererin (Geiriau: Eirian Dafydd)
Fy Nuw, fy Nhad, pan giliaf i’r cysgodion
yn wan fy ffydd, yn blentyn tlawd afradlon,
cyfeiria fi at loches y fforddolion
lle byddi di, yn disgwyl im nesáu.
Ac wrth nesáu, rhof heibio fy ffolineb
wrth geisio’r ffordd i fywyd o ffyddlondeb;
trwy niwl fy myd, synhwyro’th bresenoldeb
a theimlo’r llaw, sy’n estyn i’m hiacháu.
A thrwy’r iacháu, daw cyffro dy gyffyrddiad
yn brofiad byw, yn gyfrwng fy adfywiad;
er gwendid ffydd, o obaith daw arddeliad
a’th gariad di yn foddion i’w gryfhau.
Ar ôl cryfhau a’m derbyn yn etifedd
o fewn dy byrth, caf brofi o’th ddigonedd;
rhyfeddu wnaf, O Dad, at dy drugaredd
gan aros byth, i’th foli a’th fwynhau.