Mae Archesgob Cymru wedi ymuno â 1,000 o arweinyddion crefyddol i annog Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i ailystyried y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau.
Mae’r arweinwyr, sy’n cynrychioli chwe phrif grŵp ffydd y Deyrnas Unedig, “wedi eu harswydo ac wedi eu dychryn am ganlyniadau posibl” y Bil.
Bydd y Bil yn cychwyn ar ei gamau olaf yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw (dydd Llun, Chwefror 28), ac mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi gwrthod rhoi caniatâd cyfreithiol iddo.
Pe bai’r Bil yn cael ei basio, byddai’n rhoi pwerau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig garcharu ceiswyr lloches sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig ar gychod bach, a chaniatáu i weinidogion gael gwared ar ddinasyddiaeth Brydeinig pobol heb rybudd.
Yn ogystal â’r Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru, mae saith arweinydd crefyddol arall o Gymru wedi llofnodi’r llythyr yn galw ar Boris Johnson i wneud newidiadau brys i’r Bil “hyd yn oed mor hwyr â hyn”.
“Cyhyd ag y bydd gwrthdaro ac anghyfiawnder yn y byd, bydd bob amser pobol ar eu cythlwng yn ceisio lloches rhag rhyfel, erledigaeth a dioddefaint,” meddai’r llythyr.
“Allwn ni ddim cau ein drws arnynt, ond dyna’n union y mae’r Bil hwn yn ei wneud.
“Mynnwn fod y gwerthoedd sy’n clymu dinasyddion y Deyrnas Unedig at ei gilydd, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag urddas a bywyd dynol, yn cael eu niweidio’n sylfaenol gan y Bil hwn.”
Galwadau
Mae’r cyd-destun gwrthdaro byd-eang, gan gynnwys y gwrthdaro yn yr Wcráin, yn golygu bod y ffordd mae’r bil yn tanseilio gallu’r Deyrnas Unedig i gefnogi ffoaduriaid yn “amlycach fyth”, meddai’r arweinyddion.
Mae’r llythyr yn galw ar Boris Johnson i wneud newidiadau i’r Bil, gan gynnwys rhoi’r gorau i gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyfyngu ar hawliau pobol sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig i geisio noddfa tu allan i gynlluniau a gafodd eu trefnu ymlaen llaw a’u trin fel troseddwyr.
Mae’r polisi wedi’i lunio “heb sail o ran tystiolaeth na moesoldeb”, yn ôl y llofnodwyr.
Ynghyd â hynny, maen nhw’n dweud bod rhaid i’r llywodraeth fynd i’r afael ar fyrder “â’r methiant i sefydlu llwybrau diogel drwy’r Bil”, a fyddai’n helpu pobol sy’n ceisio noddfa i gyrraedd y Deyrnas Unedig.
Maen nhw’n annog Boris Johnson i fod yn “dosturiol ac uchelgeisiol” trwy agor cynlluniau megis aduniad teuluol, llwybrau ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain yn Ewrop, a chynlluniau adsefydlu.
‘Hawl, nid braint’
Dywed Zara Mohammed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemaidd Prydain, fod yna nifer o ddarpariaethau yn y Bil sydd yn “peri pryder mawr”.
“Rhaid i ni, felly, beidio â chefnu ar ein rhwymedigaeth foesol i sicrhau llwybrau diogel i’r rhai sydd eu hangen, i gael proses lloches deg a chyfiawn ac amddiffyn cenedligrwydd fel hawl, nid braint yn unig,” meddai Zara Mohammed.
“Mae gennym ddyletswydd i gynnal traddodiad balch y Deyrnas Unedig fel cenedl sy’n gyfoethocach oherwydd y rhai a ddaeth yma i adeiladu bywyd gwell, neu i geisio noddfa rhag erledigaeth.”
‘Cau’r drws’
Cafodd rhieni’r Rabi Jonathan Wittenberg, Uwch Rabi Iddewiaeth Masorti, eu croesawu i’r Deyrnas Unedig fel ffoaduriaid.
“Dysgais gan eu profiadau i groesawu ffoaduriaid yn fy nhŷ a gweithio gyda fy nghymuned i gefnogi llawer o bobl sy’n cael eu gorfodi i ffoi o’u mamwlad yn ofni am eu bywydau,” meddai’r Rabi Jonathan Wittenberg.
“Rwyf wedi gwrando ar hanesion torcalonnus am deithiau ceiswyr lloches ifanc sy’n ysu i gael eu haduno â pherthnasau yn y wlad hon.
“Mae’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn cynnig ein bod yn cau’r drws arnynt mewn modd creulon, gan eu gadael heb unrhyw gyfle am ddiogelwch a dyfodol. Ni allwn adael i hyn ddigwydd.
“Rwy’n erfyn ar y llywodraeth i agor llwybrau diogel a pheidio â gwahaniaethu yn erbyn y rheini sydd, yn eu hangen dirdynnol am loches, yn dod o hyd i ba bynnag ffordd y gallant i gyrraedd noddfa.”
Mae’r llofnodwyr eraill o Gymru yn cynnwys Cadeirydd Bwrdd Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru, Dr Patrick Coyle; y Parchedig Meirion Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru; y Parchedig Beti Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; Y Gwir Barchedig Dominic Walker, Esgob Cynorthwyol Mygedol yr Eglwys yng Nghymru; y Parchedig Dr Jennifer Hurd, Cadeirydd Synod Cymru yr Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain, y Parchedig Stephen Wigley, Cadeirydd Synod Cymru (Saesneg); a’r Parchedig Mark Fairweather-Tall, Gweinidog Rhanbarthol, Cymdeithasfa Bedyddwyr De Cymru.
Bydd y llythyr yn cael ei gyflwyno i Rif 10 fore heddiw (dydd Llun, Chwefror 28).