Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am “gynllun gweithredu ar frys ac ar unwaith” gan Lywodraeth Cymru i’r Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd.
Mae adroddiadau sy’n dangos methiannau yng ngwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Chwefror 28).
Ymhlith y methiannau oedd wedi eu cofnodi roedd marwolaeth dau glaf yng ngofal y bwrdd iechyd yn ystod 2021.
Daw’r canfyddiadau diweddaraf wedi i Adroddiad Holden gael ei ddatgelu i’r cyhoedd fis Tachwedd y llynedd – wyth mlynedd ar ôl cael ei lunio.
Roedd yr adroddiad hwnnw’n cyfeirio at “ddiwylliant o fwlio” yn yr uned, ac yn nodi bod cyfathrebu rhwng rheolwyr a staff rheng flaen yn “ddifrifol wan”.
Yn 2015, cafodd mesurau arbennig eu gosod ar y bwrdd iechyd yn dilyn pryderon ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethu a chynnydd.
Daeth y mesurau arbennig hynny i ben yn llwyr ym mis Tachwedd 2020.
‘Angen cynllun gweithredu’
Yn sgil yr adroddiadau, dywed Darren Millar, llefarydd gogledd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig, fod y canfyddiadau yn “hynod o ofidus”.
“Rwy’n estyn fy nghydymdeimlad i anwyliaid y rheiny sydd wedi marw o ganlyniad i fethiannau’r Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru,” meddai.
“Mae’n anhygoel sut mae digwyddiadau fel hyn wedi gallu digwydd pan fu gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd iechyd yn rhwym i fesurau arbennig Llywodraeth Cymru am flynyddoedd.
“Mae hyn yn dangos yn glir fod gan weinidogion mewn swyddfeydd yng Nghaerdydd bell anallu llwyr i ddarparu’r newidiadau mae cleifion yn eu haeddu.
“Rydyn ni angen cynllun gweithredu ar frys ac ar unwaith gan Lywodraeth Cymru i ddal y rheiny sy’n gyfrifol am y methiannau hyn i gyfrif, a datrys y problemau o ran gofal iechyd meddwl yn y rhanbarth unwaith ac am byth.”