Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig dan bwysau o’r newydd i helpu aelwydydd sy’n cael eu taro gan gostau byw ychwanegol am eu bod yn byw mewn ardaloedd heb nwy prif gyflenwad.
Mae’r cap prisiau presennol yn seiliedig ar y dybiaeth bod y defnydd o ynni cartref wedi’i rannu 80% o nwy ac 20% o drydan – ond mae bron i 20% o aelwydydd ledled Cymru yn byw mewn ardal heb nwy prif gyflenwad ar hyn o bryd. Mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion, mae’r ffigur hwnnw’n codi i fwy nag 80%.
O ganlyniad, mae cartrefi sydd ddim ar y grid nwy yn cael eu gorfodi i dalu tair i bedair gwaith yn fwy ar eu biliau ynni na’r aelwyd gyfartalog am nad ydyn nhw’n cael eu diogelu gan y cap ar brisiau.
Mae ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai Ceredigion a ddioddefodd y cynnydd mwyaf mewn biliau tanwydd ar draws tir mawr y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynyddu £863 ar gyfartaledd.
Dw i wedi cefnogi mesur gan Drew Hendry AS fydd yn sicrhau na fydd aelwydydd yn gorfod talu mwy am ynni os nad oes ganddyn nhw nwy trwy prif gyflenwad. Cyflwynwyd mesur Drew Hendry AS, ‘The Energy Pricing (Off Gas Grid Households) Bill’, yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon.
Dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb ystyried y gost ychwanegol i aelwydydd nad oes ganddyn nhw brif gyflenwad nwy, er bod 20% o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn ardal heb nwy prif gyflenwad ar hyn o bryd. O ganlyniad, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, bydd cartrefi sydd ddim ar y grid yn talu biliau ynni dair i bedair gwaith yn uwch na’r aelwyd gyfartalog er eu bod yn defnyddio’r un faint o ynni. Mae hyn yn annerbyniol.
Dyna pam rwy’n cefnogi Bil Prisio Ynni Drew Hendry AS. Os bydd yn llwyddo, bydd yn gorfodi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio ochr yn ochr ag Ofgem i fynd i’r afael â’r mater a gosod amserlen glir i atal y math yma o wahaniaethu unwaith ac am byth.