Mae’r argyfwng costau byw yn “fwgan ar y gorwel” i bawb, yn ôl un o weithwyr y Dref Werdd sy’n helpu teuluoedd yn ardal Ffestiniog i ddefnyddio llai o ynni ac arbed arian.

Nod y Dref Werdd ydy “dyrchafu incwm” pobol a helpu teuluoedd i gael mynediad at gymorth ariannol gyda biliau ynni, meddai Meilyr Tomos.

Mae’r rhan fwyaf o raglenni sy’n cynnig cymorth ariannol yn “guddiedig”, ac mae’r rhwystrau i gael mynediad atyn nhw wedi arwain at “endemig mewn hawlio” cymorth, meddai wedyn.

Yn ôl rhagolygon elusen Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru, bydd dros chwarter miliwn o gartrefi yng Nghymru’n dioddef o dlodi tanwydd erbyn mis Ebrill.

Gyda chynnydd o 54% yn y cap ar ynni ar ei ffordd, mae Meilyr Tomos yn rhybuddio y bydd rhaid i bobol wneud “penderfyniadau anodd”.

“Mae pethau ddigon drwg yn barod. Fedrwn ni gyd weld hwnna fel ryw fath o fwgan ar y gorwel,” meddai Meilyr Tomos wrth golwg360.

“Mae gen i gyflog go lew, a fy mhartner, ond mae o yn fwgan, ond dw i’n mynd i orfod ailfeddwl rhai penderfyniadau.

“Mae Gwynedd off the scale o gymharu efo siroedd eraill.”

Mae’r ystadegau ar gyfer 2018 yn dangos bod 23% o aelwydydd Gwynedd yn byw mewn tlodi tanwydd, sef y ganran uchaf yng Nghymru, sydd ymhell dros y cyfartaledd cenedlaethol o 12%.

Cryfhau’r ymateb cymunedol

Ond mae hi’n bosib cryfhau’r ymateb cymunedol, yn ôl Meilyr Tomos.

“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi gweld hynny’n ystod cyfnod Covid, lle mae cymunedau wedi ymateb yn gynt na central government,” meddai.

Mae’r Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog yn fenter gymdeithasol sy’n gweithio ers lles yr amgylchedd a’r gymuned leol.

Y Dref Werdd

“Mae yna stwff mae pobol yn gallu cael mynediad atyn nhw os ydyn nhw’n derbyn budd-daliadau… A pan ti’n dweud budd-daliadau mae hwnna’n gamarweiniol weithiau achos ti’n gorfod cofio bod gen ti ‘in work poor‘,” meddai Meilyr Tomos.

“Pan rydyn ni’n dweud ‘pobol sydd ar fudd-dal’, ti’n cynnwys, nid yn unig pobol sydd heb waith neu methu gweithio oherwydd salwch, ond lot fawr o bobol sydd ar gyflogau isel hefyd.

“Y math o bethau sydd allan yna ydy pethau penodol i wneud efo ynni, yr ‘warm home discount‘, lle ti’n cysylltu efo dy gyflenwr, ti’n hitio meini prawf, a ti’n cael rebate o £140.

“Dydy hwnna ddim yn cael ei farchnata o gwbl. Weli di ddim hysbyseb British Gas neu Scottish Power ar y teledu ‘Come and get your £140 rebate’… Maen nhw’n gwneud cyn lleied o sôn amdano fo â phosib.”

Mae hi’n bosib i bobol sy’n derbyn budd-daliadau gael cyswllt band eang rhatach gan Virgin, BT, a Sky, a chael dŵr wedi’i gapio ar £250 y flwyddyn, ychwanegodd Meilyr Tomos.

‘Byw ar friwsion’

Mae yna grŵp “eithaf mawr” o bobol sy’n gweithio rhan amser ac sy’n gyndyn o ofyn am gredyd cynhwysol yn methu allan, meddai Meilyr Tomos wedyn.

“Maen nhw eisiau gweithio rhan amser, a dydyn nhw ddim eisiau cael eu haslo’n ddi-baid gan work coach i drio’u cael nhw i lenwi’r oriau.

“Rydyn ni’n dod ar draws lot o genod, gan amlaf, ella ychydig yn hŷn, sydd wedi gweithio llawn amser o’r blaen ac ella’n mynd yn nes at oed ymddeol ac eisiau gweithio llai o oriau.”

Gan nad ydyn nhw’n hawlio credyd cynhwysol, dydyn nhw ddim yn elwa o ostyngiad mewn treth cyngor ac ati, meddai.

“Achos bod pobol yn bryderus o oblygiadau siarad ag universal credit, maen nhw’n methu ar hwnna hefyd felly mae yna bobol yn byw ar friwsion.”

‘Endemig mewn hawlio’

Mae yna “endemig mewn hawlio” am gymorth, meddai Meilyr Tomos, wrth ddweud bod y Dref Werdd yn cyfeirio pobol ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, megis Nyth – sy’n benodol ar gyfer tlodi tanwydd.

“Fedri di ddim pwyntio bys at yr awdurdod lleol, does ganddyn nhw ddim y capasiti i gyrraedd pawb… sy’n bechod achos y bobol sydd fwyaf difreintiedig a mwyaf isel ei hincwm ydy’r pobol fwyaf gwerthfawr i’r economi leol.

“Mae pob punt sy’n mynd i boced rhywun sydd efo incwm isel yn cael ei wario, fwy neu lai, o fewn ardal fach iawn. Dydy pobol ar incwm isel ddim yn teithio ymhell. Mae’r pres yn aros yn lleol.

“Mae o fatha bod o’n fwriadol, lot o’r pethau sy’n ychwanegol i’r hyn sy’n statudol, mae o’n guddiedig waeth i chdi ddweud.”

Mae nifer o’r rhaglenni cymorth gyfangwbl ar-lein, ac mae hynny’n rhwystr ychwanegol, meddai Meilyr Tomos.

Ni ddylai cartrefi heb nwy prif gyflenwad orfod talu mwy am ynni

Ben Lake

Dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb ystyried y gost ychwanegol, medd Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion

Cymru ‘ymysg yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio waethaf’ gan y cynnydd mewn prisiau ynni

Dangosa ymchwil newydd bod cartrefi yng Nghymru yn gwario 10% yn fwy ar drydan o gymharu â’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig