Mae cogydd prentis ifanc o ganolbarth Cymru wedi cipio dwy fuddugoliaeth yn ystod ei hymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth Coginio Rhyngwladol Cymru.
Cafodd y digwyddiad eleni ei drefnu gan Gymdeithas Coginio Cymru a’i gynnal ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo yn Rhos.
Fe enillodd Charlotte Latham o Lanidloes ragbrofion Cymreig y gystadleuaeth creu risotto ar gyfer cogyddion rhwng 17 a 23 oed o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Llwyddodd hi i greu argraff ar y beirniaid am ei risotto cimwch, a bydd hi nawr yn cynrychioli Cymru yn ffeinal y gystadleuaeth honno, sy’n cael ei chynnal yn Stadiwm Tottenham Hotspur yn Llundain ar Ebrill 4.
Pe bai hi’n ennill y gystadleuaeth, byddai hi’n cael teithio i Milan yn yr Eidal i gael profiad gwaith mewn bwyty Michelin a chael mynd ar daith fwyd nodweddiadol.
Gwneud y dwbl
Daeth hi hefyd i’r brig yn rhagbrofion yr Her Prif Gwrs Rhyngwladol, am greu saig gyda Chig Oen Cymreig, cwscws pomgranad a phwmpen cnau menyn.
Bydd ffeinal y gystadleuaeth honno yn cael ei chynnal yn ystod digwyddiad Hotel, Restaurant & Catering yng nghanolfan ExCel yn Llundain rhwng Mawrth 21 a 23.
Mae Charlotte Latham, 21, wedi gweithio fel commis chef ym mwyty Chartists 1770, Llanidloes ers mis Mai diwethaf, tra’n cwblhau prentisiaeth mewn coginio proffesiynol.
“Roeddwn i’n nerfus iawn oherwydd dyma oedd fy nghystadlaethau cyntaf,” meddai.
“Aeth fy meddwl yn wag fore Mawrth ond roeddwn i’n iawn pan ddechreuais i goginio a dw i’n falch iawn ohonof i fy hun.
“Rwy’n caru’r diwydiant ac yn mwynhau’r pwysau a’r her. Dw i wir wedi mwynhau bod yn commis chef – mae wedi bod yn brofiad gwych.”
Wrth edrych ymlaen at y ffeinal, ychwanegodd ei bod hi’n “ofni” ond y bydd hi’n “ceisio ei gorau.”