Mae Cymro Cymraeg o Rydaman oedd wedi gadael y byd addysg i fynd yn weinidog yn dechrau yn ei swydd yn Gaplan Archesgob Cymru heddiw (dydd Llun, Chwefror 28).

Roedd y Parchedig James Tout yn bennaeth cynorthwyol yn y gogledd pan aeth i’r weindiogaeth, ac fe fu ers hynny’n gwasanaethu fel curad cynorthwyol yn Wrecsam gan arwain prosiect efengylaidd Llan yn Esgobaeth Bangor hefyd.

Yn wreiddiol o Rydaman yn Sir Gaerfyrddin, fe raddiodd o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe cyn mynd yn athro Cemeg yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin.

Aeth oddi yno i Groesoswallt a phan roddodd y gorau i ddysgu yn 2020, roedd yn Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth ac yn Bennaeth Cynorthwyol Cysylltiol yn y Marches School.

Cafodd ei dderbyn i’r Eglwys gan Esgob Llanelwy yn 2019, gan ddod yn Gurad Cynorthwyol yn Wrecsam, a’i benodi’n Gyfarwyddwr Llan flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae ganddo fe fab saith oed, Aled, sy’n mwynhau Lego a gwylio rasio ceir.

Yn rhinwedd ei swydd newydd, fe y Parchedig James Tout yn cefnogi gwaith yr Archesgob Andrew John yn Esgobaeth Bangor.

“Rwy’n hynod falch i benodi James yn Gaplan i mi ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef i ddatblygu swyddfa’r Archesgob,” meddai Archesgob Cymru.

“Mae gan James gyfoeth o brofiad proffesiynol, yn ogystal â dirnadaeth fugeiliol, o fyd addysg a hefyd fel offeiriad a chyfarwyddwr Llan.

“Mae ganddo galon ar gyfer cenhadaeth ac efengyliaeth a fydd yn ased werthfawr yn y swydd hon.”

‘Braint fawr’

“Rwyf wrth fy modd i gymryd rôl newydd Caplan i’r Archesgob,” meddai’r Parchedig James Tout.

“Bu’n fraint mawr i arwain prosiect efengyliaeth Llan am yr ychydig flynyddoedd diwethaf sy’n ceisio ffyrdd newydd i ymwneud gyda phobl fel y gallant ddod i gysylltiad â Duw a chael eu trawsnewid.

“Rwy’n falch iawn i fedru parhau gweinidogaeth o fewn Esgobaeth Bangor a nawr yn daleithiol hefyd.

“Mae’r cyfle i weithio gyda’r Archesgob, y tîm uwch yn Esgobaeth Bangor, yn ogystal â’r Swyddfa Daleithiol ar adeg o newid mor gyffrous yn fy llonni.”

Cysegru

Yn y cyfamser, mae Esgob Cynorthwyol Bangor, Mary Stallard, yn un o ddau Esgob a gafodd eu cysegru dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Chwefror 26).

Mary Stallard
Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol Bangor

Hefyd yn cael ei gysegru roedd John Lomas, Esgob Abertawe ac Aberhonddu, gyda’r gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant ym Mangor yn cael ei ffrydio ar y we am y tro cyntaf erioed.

Cafodd y gwasanaeth ei arwain gan Esgob Bangor, gyda chynrychiolwyr o bob esgobaeth yn bresennol.

Cafodd cerddoriaeth newydd ei chyfansoddi gan Joe Cooper ar gyfer yr achlysur, a hynny’n seiliedig ar gasgliad o emynau Cymraeg adnabyddus, a chafodd anthem newydd gan Simon Ogdon ei chanu cyn i’r esgobion gael eu derbyn yn swyddogol i’w rôl.