Ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi enwi’r llefydd gorau i weld cennin Pedr.
Mae’r rhestr yn cynnwys lleoliadau ym Mangor, Wrecsam, Llanerchaeron, a Chaerdydd lle bydd cennin Pedr yn eu blodau ddechrau mis Mawrth.
Cafwyd nifer o straeon yn awgrymu sut y daeth y genhinen Bedr i fod yn symbol ar gyfer Cymru, ac yn ôl y chwedl dechreuodd y cyfan gyda’r genhinen arferol pan gynghorodd Dewi Sant filwyr Cymreig i wisgo’r llysieuyn wrth frwydro yn erbyn y Sacsoniaid, er mwyn gwahaniaethu rhwng y gwrthwynebwyr a’u cyd-filwyr.
Credir bod Dewi Sant wedi marw ar 1 Mawrth tua 589 Oed Crist, a chafodd ei wneud yn nawddsant Cymru yn y ddeuddegfed ganrif.
Mae’n bosib bod cenhinen a chenhinen Bedr yn cael eu cysylltu â’r diwrnod yn sgil y tebygrwydd rhwng yr enwau.
Dyfodiad y gwanwyn
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae cennin Pedr eisoes yn tyfu mewn rhannau o Gymru, ond bydd y blodau, sy’n arwydd o ddyfodiad y gwanwyn hefyd, ar eu gorau yng nghanol mis Mawrth.
Y mannau gorau i weld cennin Pedr eleni:
Castell Penrhyn, Bangor
Gellir gweld yr arddangosiad mwyaf o gennin Pedr ar hyd yr ardaloedd coediog, ac o flaen ac ar hyd ochr y castell o flaen y tŵr. Mae’r blodau ar ei orau o ganol mis Mawrth tan ddiwedd Ebrill.
Gardd Bodnant, Conwy
Mae cannoedd ar filoedd o fylbiau cennin Pedr wedi cael eu plannu gan genedlaethau o arddwyr ym Modnant ers 20au. Gellir gweld y brif sioe yng Ngardd Bodnant yng nghanol mis Mawrth ac Ebrill.
Erddig, Wrecsam
Mae’r cennin Pedr ar eu gorau ar hyd lan y gamlas yn Erddig, neu mae’n bosib gweld rhywogaeth llygad y ffesant, ‘Narcissus poeticus’, ymhlith y coed conwydd a’r coed afalau yn hwyrach yn ystod y gwanwyn.
Castell y Waun, Wrecsam
Mae’r cennin Pedr yn un o’r uchafbwyntiau blynyddol ymysg yr holl flodau sydd i’w gweld yng ngardd Castell y Waun. Maen nhw wedi blodeuo’n barod, ond bydd y sioe ar ei gorau yn hwyrach ym mis Mawrth.
Castell Powis, Y Trallwng
Mae’r Narcissus Pseudonarcissus, sef y cennin Pedr Cymreig enwocaf, yn ffynnu yn eu miloedd yng Nghastell Powis. Ym mis Mawrth mae cennin Pedr naturiol wyllt yn blodeuo ar draws y lawnt.
Gardd Dyffryn, Caerdydd
Yn gynnar yn y tymor, mae posib gweld cennin Pedr ifanc yn ysu i wthio i fyny drwy’r gwair, ac yna erbyn canol mis Mawrth bydd miloedd ar filoedd ohonyn nhw i’w gweld. Ceir 50 o wahanol rywogaethau o gennin Pedr yma, ac mae un ohonyn nhw, sef y ‘Narcissus Dyffryn’ neu gennin Pedr Dyffryn, yn rhywogaeth sy’n arbennig i’r ardd ac yn enwog dros y byd.
Llanerchaeron, Ceredigion
Mae miloedd o gennin Pedr wedi dechrau ymddangos yn y coetir ar hyd glannau Afon Aeron, a byddan nhw yn eu blodau ganol fis Mawrth a thrwy fis Ebrill.
Tŷ Tredegar, Casnewydd
Drwy gydol mis Mawrth, mae cennin Pedr yn blodeuo o amgylch coeden gastan 250 mlwydd oed yn ngerddi Tŷ Tredegar.