Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n “gwneud popeth posibl” i sicrhau fod pobl yr Wcráin yn gallu cael lloches yng Nghymru pe bai angen.
Bu rhai yn proffwydo y gallai hyd at bum miliwn o drigolion y wlad fod yn gadael oherwydd y sefyllfa yno.
Ers i Vladimir Putin orchymyn ymosodiad ar yr Wcráin ddoe (dydd Iau, 24 Chwefror), mae ffrwydradau wedi eu gweld a’u clywed yn ninasoedd mwyaf y wlad, ac mae lluoedd Rwsia yn ceisio goresgyn y brifddinas, Kyiv.
Y diweddaraf yw bod Putin wedi galw ar luoedd arfog yr Wcráin i droi yn erbyn llywodraeth y wlad.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae o leiaf 194 o bobol wedi marw ledled yr Wcráin, ac mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod o gwmpas 100,000 o bobol eisoes wedi ffoi o’r wlad.
Gall y ffigwr hwnnw godi i bum miliwn os yw’r gwrthdaro yn gwaethygu dros y misoedd nesaf, ac mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau pobol y byddan nhw’n gwneud lle i ffoaduriaid os oes angen.
‘Barod i chwarae rhan lawn’
“Rydym yn pryderu’n fawr am y sefyllfa yn yr Wcráin,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn meddwl am yr holl gymunedau hynny y mae’r gwrthdaro hwn yn effeithio arnynt, gan gynnwys unrhyw un sydd eisoes yn byw yma yng Nghymru a fydd yn pryderu am gyfeillion ac aelodau o’r teulu.
“Mae Cymru yn Genedl Noddfa ac, os bydd angen, byddwn yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod pobl yr Wcráin a’u teuluoedd yn gallu cyrraedd lle diogel a chael croeso yma.
“Rydym yn haeddiannol falch o’r gwaith y mae Cymru wedi’i wneud gyda’n gilydd i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth ac sydd wedi chwilio am noddfa yma dros y blynyddoedd
“Rydym yn barod i chwarae rhan lawn wrth gefnogi ymateb y Deyrnas Unedig a byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r holl bartneriaid allweddol yma yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig er mwyn cyflawni hynny.”
Dim cynlluniau cadarn eto
Does dim cadarnhad eto ynglŷn â faint o bobol mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w derbyn, ond mae trafodaethau yn parhau rhyngthyn nhw â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn y cyfamser, mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes wedi cynnig lloches i ffoaduriaid mewn ymateb i’r argyfwng sy’n datblygu.
Yn gynharach heddiw, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddan nhw’n dilyn yr un broses ag sydd wedi digwydd efo derbyn ffoaduriaid o wledydd Syria ac Affganistan.
“Mae popeth rydyn ni’n ei weld yn yr Wcráin yn mynd i wneud i nifer fawr o bobol symud o ble maen nhw heddiw,” meddai wrth y BBC.
“Yma yng Nghymru, rydyn ni wedi croesawu pobol dros y blynyddoedd, er enghraifft o Syria ac Affganistan yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.
“Gan weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’n partneriaid yng Nghymru, rydyn ni’n awyddus i wneud beth allwn ni ei wneud i helpu pobol sydd wedi wynebu’r pethau rydyn ni’n ei weld ar y teledu bob dydd.”