Mae gyrrwr tractor 64 oed wedi sôn am y “rhyddhad” o gael ei achub ar ôl iddo dreulio dros 10 awr yn sownd mewn llifddwr ym Mhowys.

Roedd David Jones ar ei ffordd i chwarel ger Llandrinio yn Sir Drefaldwyn yn gynnar fore dydd Mawrth (22 Chwefror), pan gafodd ei ddal yn y dŵr.

Yn dilyn stormydd Eunice a Franklin, roedd glannau’r afon Hafren wedi gorlifo gan achosi llifogydd ar ffyrdd yn yr ardal.

Bu David Jones am dros saith awr yn y llifddwr cyn i’r awdurdodau gael eu galw gan gydweithwyr oedd yn poeni amdano.

Ond doedden nhw dal ddim yn ymwybodol o’i leoliad pan gafodd yr alwad ei gwneud, ac roedd rhaid disgwyl ychydig oriau’n rhagor nes bod modd ei achub.

Fe wnaeth yr heddlu, y gwasanaeth tân a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu gydweithio i achub y gŵr 64 oed.

‘Rhyddhad mawr’

Daw David Jones yn wreiddiol o Acton Burnell ger Yr Amwythig, ac mae wedi bod yn siarad am y profiad dychrynllyd.

“Yr oeddwn yn mynd i’r chwarel i hôl cerrig,” meddai.

“Yr oeddwn yn mynd trwy’r dŵr, a dechreuodd fynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach, felly roedd yn rhaid imi stopio neu fe allai’r dŵr fod wedi difrodi’r injan.”

Dywedodd nad oedd modd iddo alw am gymorth oherwydd bod batri ei ffôn symudol yn fflat, felly roedd yn rhaid iddo aros yn ei unfan heb syniad pryd y byddai’n derbyn cymorth.

“Roedd yn rhaid imi aros i rywun ddod i chwilio amdanaf,” meddai.

“Ni wnes i droi’r radio ymlaen gan fy mod i’n poeni am y gwaith trydanol.

“Roedd fy nghinio i gyda mi, felly roeddwn i’n iawn am fwyd.

“Gwnaeth pawb ymdrech arbennig i ddod o hyd imi. Roedd gweld yr hofrennydd yn rhyddhad mawr.”

Chwiliad yr heddlu

Llwyddodd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu i ddod o hyd i David Jones, ar ôl i’r heddlu weld llun o’r tractor yng nghanol y llifogydd ar gyfryngau cymdeithasol.

Fe ymchwilion nhw i le cafodd y llun ei dynnu ac arwain yr hofrennydd at y tractor.

“Galwom Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu i mewn er mwyn mynd mor agos â phosibl i’r tractor i edrych tu mewn iddo,” meddai’r Arolygydd Darren Brown.

“Gwelsant siaced adlewyrchol a symudiad, gan gadarnhau bod rhywun yn y tractor.”

Gwaith ’diflino’

Nid dyma’r unig ddigwyddiad i wasanaeth tân yr ardal orfod delio ag o yn ystod y penwythnos wrth i’r storm achosi hafoc yn y canolbarth.

Roedd rhaid iddyn nhw yrru cwch at dractor David Jones er mwyn ei achub.

“Gweithiodd ein criwiau’n ddiflino dros y penwythnos a dechrau’r wythnos hon wrth ymateb i’r llifogydd rhanbarthol a achoswyd gan Storm Eunice a Storm Franklin,” meddai Andrew Richards, Rheolwr Gorsaf Dân y Trallwng.

“Roedd ein criwiau eisoes yn ymateb i ddigwyddiad arall a oedd yn gysylltiedig â’r llifogydd, ac wedi achub pedwar unigolyn o’u cartrefi yn ardal Llandrinio pan gawsant eu galw i helpu’r heddlu i achub dyn mewn tractor.

“Diolch i gymorth hofrennydd yr heddlu, a ddaeth o hyd i’r tractor yn y llifddwr, roedd modd i’n Tîm Achub Dŵr Cyflym fynd at y cerbyd a mynd i mewn iddo i achub y dyn gan ddefnyddio cwch.”