Mae llawer o sôn wedi bod yn ddiweddar am blannu coedwigoedd enfawr drwy Gymru benbaladr, a chwmnïau o dros y ffin yn gwneud hynny er mwyn gwrthbwyso eu hallyriadau carbon.

Ond mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried blaenoriaethau y tu hwnt i blannu coed yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, yn ôl Adam Jones, y garddwr a’r hyrwyddwr llysiau o Sir Gaerfyrddin.

Un o amcanion pennaf y Llywodraeth yw creu ‘Coedwig Genedlaethol’ a fydd yn ymestyn o’r de i’r gogledd.

Mae’n debyg y bydd rhaid plannu tua 86m o goed yng Nghymru dros y naw mlynedd nesaf er mwyn cyrraedd y targed allyriadau sero-net erbyn 2050.

‘Plannu coed ddim yn ddigon’

Mae Adam Jones wedi teithio ledled Cymru yn hyrwyddo garddio a dulliau hunangynhaliol o fyw mewn ysgolion ac ati.

Mae e hefyd yn rhannu ei brofiadau’n tyfu ffrwythau a llysiau ar y cyfrif @adamynyrardd ar Twitter ac Instagram.

Mae’n teimlo bod y Llywodraeth yn rhoi gormod o sylw i blannu coed, ond dim digon i blannu bwyd, sy’n gallu porthi’r wlad a gwrthbwyso allyriadau carbon ar yr un pryd.

“Dw i o blaid plannu coed – dw i’n gwneud hynny fy hunan,” meddai wrth golwg360.

“Ond mae shwd gymaint o ffocws ar blannu coed yn unig, a bod e’n rhyw fath o ffordd i ateb y drwgweithredoedd mae cwmnïau mawr yn eu gwneud.”

Angen tyfiant

Yn 2020, cafodd ymchwil gan Dr Amber Wheeler ei gyhoeddi gan gorff Tyfu Cymru i asesu’r sefyllfa o ran cynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Roedd yr ymchwil yn dangos mai dim ond 0.1% o dir Cymru – neu 2301 erw – sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer tyfu bwyd.

Mae’n debyg bod hynny’n galluogi i gyfanswm o 19,551 tunnell o ffrwythau a llysiau gael eu tyfu bob blwyddyn.

Dywed Adam Jones y dylai’r ffigwr hwnnw fod yn agosach at 600,000 tunnell os yw Cymru am fod yn hunangynhaliol, wrth ystyried polisi cyhoeddus sy’n sôn am fwyta’n iach.

“Y cyfan yw hynny yw defnyddio dim ond 2% o dirwedd Cymru,” meddai.

“Mae 14% o dirwedd Cymru ar hyn o bryd yn goed, ac mae Llywodraeth Cymru eisiau codi hynny i 19% – felly 5% o wahaniaeth.

“Y ddadl dros wneud hynny ydi sicrhau ein bod ni’n lleihau ein hôl troed carbon. Dw i ddim yn dweud bod hynny’n anghywir, ond dw i yn poeni bod dim strategaeth na syniadau o ran cynyddu faint o fwyd rydyn ni’n cynhyrchu ar y tir a newid defnydd at hynny.

“Yn y Deyrnas Unedig, mae 45% o’r holl fwyd rydyn ni’n ei fwyta wedi ei fewnforio, ac yng Nghymru mae lot yn uwch o ran ffrwythau a llysiau.”

Adam yn ei ardd. Llun: Adam Jones

Buddion i’r economi ac i’r Gymraeg

“Pe bydden ni ond yn dynodi 1.9% o dir [ar gyfer tyfu bwyd], sydd dipyn yn llai na’r 5% o ran plannu coed, mae gan hynny’r potensial o leihau ein hôl-troed carbon ni o 20-30%,” meddai Adam Jones wedyn.

“Maen nhw hefyd yn dweud bod un erw o dir yn gallu cynnal dau berson, a chreu incwm o tua £20,000 y flwyddyn. Gallwch chi greu economi gryf iawn yn ein hardaloedd gwledig ni.

“Byddai hynny’n diogelu’r Gymraeg, achos byddai siaradwyr yn aros yn eu hardaloedd nhw.

“Lot o fentrau bach fyddai gyda chi ond wrth ystyried y darlun ehangach, byddai’r system fwyd yn ddiogel iawn, sy’n golygu fyddech chi ddim yn ddibynnol ar gylchoedd cyflenwi ledled y byd – ac felly’r perygl o silffoedd gwag fel gwelon ni yn ystod y pandemig.”

‘Dim unrhyw gymhelliant gan Lywodraeth Cymru’

Dymuniad Adam Jones yw gallu byw bywyd “sefydlog a hapus” yn ei ardal leol, ond mae’n teimlo bod tir wedi mynd yn rhy ddrud i bobol ifanc sydd eisiau tyfu bwyd.

“Mae e’n rhwydd bachu penawdau i ddweud ein bod ni wedi plannu hyn a hyn o goed, ond dw i eisiau gweld mwy o ffocws ar beth arall allwn ni ei wneud,” meddai.

“Ble mae’r sôn am roi pecynnau o dir i bobol?

“Os wyt ti’n meddwl am lefydd fel Pen Llyn, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, mae lot o amaethwyr yn yr ardaloedd hyn sydd â phlant yn methu â chael tai.

“Does dim unrhyw gymhelliant gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn i annog ffermwyr i addasu darnau bach o dir [ar gyfer tyfu].

Ei awgrym yw agor cronfa i alluogi pobol i gael mynediad at dir dan berchnogaeth gyhoeddus.

Byddai’r unedau hynny wedyn yn gallu cael eu defnyddio gan unigolion neu fusnesau bach sy’n dymuno tyfu a gwerthu ffrwythau a llysiau.

Ychwanegodd fod tyfu bwyd yn ddiwydiant allweddol cyn yr Ail Ryfel Byd, ond ein bod ni wedi mynd i ddibynnu ar fewnforio bwyd yn ddiweddarach yn yr ugeinfed ganrif.

‘Shwd gymaint o botensial’

Teimla Adam Jones fod “yr ods yn erbyn” mentrau bwyd sy’n dechrau yng Nghymru, a bod angen i’r Llywodraeth ddangos llawer mwy o gefnogaeth tuag atyn nhw, yn enwedig wrth geisio annog ffermwyr i arallgyfeirio.

“Mae shwd gymaint o botensial,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gofyn am lot – dim ond 2% o dir Cymru. Alli di wneud hynny heb effeithio bron dim ar y diwydiant amaeth.

“Maen nhw wedi anwybyddu ac anghofio hynny achos mae dipyn yn haws i bwyntio bys ar amaeth ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd.

“Nid bai amaethwyr yw e, maen nhw jyst yn trio bodoli.

“Dwyt ti ddim yn mynd i’w darbwyllo nhw i fod ar dy ochr di os wyt ti’n mynd i bwyntio bys arnyn nhw.

“Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr dw i’n eu hadnabod yn caru’r darn o dir y maen nhw’n eu hamaethu ers cenedlaethau. Dw i’n siŵr os byddech chi’n gofyn wrth bob ffermwr yn y Sioe Frenhinol faint ohonyn nhw fyddai’n neilltuo cyfer i dyfu llysiau, byddai pob llaw’n codi.”