Mae ynysoedd Tonga wedi cael y we yn ôl, bum wythnos ar ôl i dri o bobol gael eu lladd yn dilyn llosgfynydd a tswnami yno oedd wedi dinistrio dwsinau o gartrefi.

Mae cebl tanfor a gafodd ei ddifrodi bellach yn gweithio eto ar ôl cael ei ailgysylltu, meddai Samiuela Fonua, cadeirydd cwmni Tonga Cable.

“Mae’n rhyddhad mawr pan ydych chi’n gwybod fod pethau wedi dod i ben ac yn gweithio’n dda.

“Mae’n un cam ymlaen i’r wlad.”

Bu’n rhaid trwsio gwerth 56 milltir o geblau yn dilyn y tswnami, a doedd dim digon o gebl sbâr i gwblhau’r gwaith yn gyflym, meddai, gan ychwanegu bod cwmni Elon Musk, SpaceX, hefyd wedi helpu gyda’r gwaith drwy gyfres o loerennau bach Starlink.

Bu’n rhaid i’r cwmni fenthyg ceblau gan gwmnïau eraill er mwyn ei gwblhau, ac maen nhw bellach wedi troi eu sylw at gebl arall sy’n cysylltu rhai o ynysoedd allanol Tonga i’r brif ynys – ond mae’r cebl hwnnw’n agos iawn i safle’r llosgfynydd tanfor.

Yn ôl Ffiji, roedd SpaceX yn gweithio yno hefyd er mwyn adfer cysylltedd Tonga, gwlad sydd hefyd wedi bod yn brwydro yn erbyn Covid-19 am y tro cyntaf.

Covid-19

Y gred yw fod Covid-19 wedi cyrraedd Tonga o ganlyniad i filwyr o dramor yn cyrraedd ar longau ac awyrennau wrth iddyn nhw ollwng nwyddau hanfodol ar ôl i’r llosgfynydd ffrwydro.

Mae mwy na 250 o achosion wedi’u cofnodi, ond does neb wedi marw yn ôl ffigurau swyddogol, sy’n golygu y bu modd llacio rhai o’r cyfyngiadau yno yn dilyn cyfnod clo.

Mae 90% o boblogaeth Tonga sydd dros 12 oed wedi cael o leiaf ddau ddos o frechlyn erbyn hyn.