Mae’r pêl-droediwr Troy Deeney yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnwys hanes a phrofiadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng nghwricwlwm Lloegr.

Cafodd Deeney, sy’n gapten ar glwb Birmingham, ei ysbrydoli gan y ffaith fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi diwygio eu cwricwlwm nhw i gynnwys straeon gan bobol BAME.

Bydd y fframwaith hwnnw yn weithredol o fis Medi 2022, a bryd hynny, Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i gynnwys y themâu hyn yn eu cwricwlwm.

Yn ôl arolwg gan YouGov, roedd y mwyafrif o athrawon yn y Deyrnas Unedig yn credu bod y system addysg yn rhagfarnllyd ar sail hil, a dim ond 12% oedd yn teimlo’u bod nhw’n cael eu hybu i ddysgu am amrywiaeth.

Mae Nadhim Zahawi, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, wedi sôn o’r blaen am gynnig amrywiaeth yn rhan o’r cwricwlwm, gan gymeradwyo athrawon oedd yn gwneud ymdrechion i drafod y pynciau.

Er hynny, roedd yn bendant nad oedd eisiau i ysgolion “wthio unrhyw agenda ar blant”, yn enwedig wrth drafod y mudiad Black Lives Matter, a allai hyrwyddo “safbwyntiau gwleidyddol unochrog”.

Llythyr agored

Mewn llythyr agored at Nadhim Zahawi, fe wnaeth Troy Deeney sôn am ei frwydrau personol yn yr ysgol.

Cafodd ei ddiarddel yn 15 oed, ac roedd un o’i athrawon wedi dweud wrtho y byddai’n marw cyn cyrraedd ei ben-blwydd yn 26 oed.

Mae e bellach wedi bod yn bêl-droediwr proffesiynol ers 15 mlynedd.

“Dw i’n credu bod y system bresennol yn methu plant o leiafrifoedd ethnig,” meddai Troy Deeney yn ei lythyr agored i Nadhim Zahawi.

“Dw i wedi canfod nad fi yw’r unig un sy’n teimlo’n gryf am y mater hwn. Dros y 18 mis diwethaf, mae bron i 400,000 o bobol wedi llofnodi deisebau yn galw am newidiadau i gael mwy o amrywiaeth yn y cwricwlwm cenedlaethol, ac mae sawl dadl wedi bod yn y Senedd yn San Steffan.

“Ond eto, mae dysgu am hanes a phrofiadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn parhau i fod yn opsiynol.

“Ymateb eich Llywodraeth i hynny felly yw bod y pynciau yna ac mai penderfyniad yr athrawon a’r ysgolion yw eu dysgu nhw.

“Mr Zahawi, dw i’n ymbil arnoch chi – fel yr Ysgrifennydd Addysg – i adolygu’r pwnc hwn eto a gwneud addysg am hanes a phrofiadau pobol BAME yn orfodol drwy’r cwricwlwm i ysgolion.”

‘Mae’n bosib gwneud hyn’

Yn gynharach y mis hwn, fe gomisiynodd Troy Deeney arolwg gan YouGov yn trafod y mater.

Fe wnaeth 54% o’r 1,107 o athrawon a gafodd eu holi yn yr arolwg ddweud eu bod nhw’n credu bod gan y cwricwlwm cenedlaethol ragfarn ar sail hil.

Roedd 72% yn meddwl y dylai’r Llywodraeth wneud mwy i gefnogi addysgu amrywiaeth ddiwylliannol.

Ymhlith yr athrawon o leiafrifoedd ethnig a gafodd eu holi, dywedodd 93% eu bod yn meddwl bod gogwydd hiliol yn y system ysgolion bresennol.

“Fel mae’r canlyniadau yn ei ddangos, er gwaethaf honiadau eich Llywodraeth fod pynciau amrywiol eisoes ar waith yn y cwricwlwm, a digon o hyfforddiant athrawon yn cael ei ddarparu, yn amlwg dydy hynny ddim yn ddigon ac mae’r gefnogaeth a’r awydd i wneud mwy yno,” meddai Deeney yn ei lythyr agored.

“Mae’n bosib gwneud hyn – rydyn ni wedi gweld hynny yng Nghymru, sef y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud addysgu hanes a phrofiadau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn orfodol ar draws y cwricwlwm ysgol.

“Am y rhesymau hyn dw i eisiau ailgynnau’r sgwrs hon a’i rhoi yn ôl ar yr agenda.”