Fe fydd Prydain yn ei gwneud “mor boenus â phosib” i Rwsia os yw’r Arlywydd Vladimir Putin yn ymosod ar yr Wcrain, mae’r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss wedi rhybuddio.
Yn ôl Liz Truss mae arweinydd Rwsia yn “benderfynol” o geisio goresgyn yr Wcrain, gan gynnwys ymosodiad posib ar y brifddinas Kyiv.
Dywedodd Liz Truss bod gan y Llywodraeth fesurau pellach wrth gefn y gallai eu defnyddio, ar ôl i gyfres o sancsiynau a gyhoeddwyd ddoe (dydd Mawrth, 22 Chwefror) gael eu beirniadu am fod yn rhy wan.
Roedd Boris Johnson wedi dweud wrth Aelodau Seneddol ddoe y byddai tri dyn busnes cyfoethog iawn sydd â chysylltiadau a’r Kremlin ynghyd a phum banc yn Rwsia yn cael eu targedu i ddechrau, wrth i’r Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd gyhoeddi mesurau tebyg.
Yn y cyfamser, mae’r Tŷ Gwyn wedi awgrymu y bydd ymdrechion diplomyddol i ddatrys yr argyfwng yn cael eu hatal am y tro, gan ohirio cynlluniau am gyfarfod brys posib rhwng Vladimir Putin a’r Arlywydd Joe Biden.
Daw hyn ar ôl i Vladimir Putin gyhoeddi y byddai Rwsia yn cydnabod y “gweriniaethau” Donetsk a Luhansk yn nwyrain yr Wcrain. Mae hyn yn cael ei weld gan lawer fel datblygiad tuag at ymosodiad lawn.
Dywedodd Liz Truss ei bod hi’n dal yn aneglur a oedd milwyr Rwsia wedi croesi i’r tiriogaethau, ar ôl i Vladimir Putin ddweud ei fod yn anfon “ceidwaid heddwch” i’r ardal.
“Rydyn ni wedi clywed gan Putin ei hun ei fod yn anfon milwyr yno. Nid oes gennym y dystiolaeth lawn bod hynny wedi digwydd eto,” meddai wrth Sky News.
Dywedodd fodd bynnag fod Prydain a chynghreiriaid Gorllewinol eraill yn benderfynol o’i gwneud hi mor anodd â phosib i Rwsia pe bai ymosodiad yn digwydd – gan gynnwys rhoi arfau amddiffynnol i’r Wcráin.
“Rwy’n credu bod Putin yn benderfynol o oresgyn yr Wcrain,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.
“Mae hyn yn ymwneud â gwneud pethau’n boenus i Putin a diraddio system economaidd Rwsia dros amser, gan dargedu’r bobl sy’n agos at Putin.
“Mae’n rhaid i ni ei wneud mor boenus â phosib, trwy roi cefnogaeth i lywodraeth yr Wcrain o ran arfau amddiffynnol, o ran cefnogaeth economaidd, a thrwy gostau economaidd.”