Erbyn 2040 bydd yna brinder o 800 o anesthetyddion yng Nghymru, ac mae arweinwyr yn y maes wedi rhybuddio y gallai miliynau o lawdriniaethau gael eu gohirio neu weld oedi oni bai bod camau brys.

Yn ôl adroddiad newydd gan Goleg Brenhinol yr Anesthetyddion, mae yna brinder o dros 1,400 dros y Deyrnas Unedig ar y funud, ac mae hynny’n golygu nad yw tua miliwn o lawdriniaethau’n gallu digwydd bob blwyddyn.

Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw, mae’r Coleg yn rhybuddio bod cynnydd mewn galw am lawdriniaethau a phoblogaeth sy’n heneiddio’n golygu y bydd y prinderau’n gwaethygu erbyn 2040.

Erbyn hynny, mae disgwyl na fyddai tua 8.25 miliwn o lawdriniaethau’n gallu digwydd bob blwyddyn yn sgil y rhagolygon am brinder staff anesthetyddol.

Dywedodd llywydd Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion, Dr Fiona Donald, bod yna brinderau mawr yn y gweithlu’n barod sy’n atal “niferoedd uchel” o lawdriniaethau rhag digwydd.

“Oni bai bod gweithredu brys, bydd y broblem yn gwaethygu,” meddai.

“Llanast” heb weithredu

Heb gamau i fynd i’r afael â phrinderau yn y gweithlu, mae’r ôl-groniad ar restrau aros mewn “llanast”, meddai’r adroddiad.

Mae Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ariannu 100 lle ar gyfer hyfforddi anesthetyddion arbenigol er mwyn cynyddu’r rhifau.

“Byddem yn croesawu cyllid gan y Llywodraeth ar gyfer llefydd i hyfforddi anesthetyddion ychwanegol,” meddai Dr Fiona Donald.

“Byddai cant lle ychwanegol y flwyddyn yn dechrau llenwi’r bwlch a helpu i gael y Deyrnas Unedig yn ôl ar y trywydd iawn er mwyn gallu mynd i’r afael â’r ôl-groniad ar restrau aros.

“Heb y buddsoddiad hwn, rydyn ni’n rhagweld y bydd yn effeithio ar ofal cleifion ac yn effeithio ymhellach ar iechyd meddwl y gweithlu presennol – maen nhw angen gallu blaenoriaethu eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu teuluoedd ynghyd â chanolbwyntio, fel maen nhw’n ei wneud, ar iechyd cleifion a’r cyhoedd.”

Blaenoriaethu pwysau ar weithleoedd

Cyfeiriodd yr adroddiad at yr angen i greu mwy o lefydd i fyfyrwyr astudio meddygaeth mewn prifysgolion ac mewn hyfforddiant arbenigol uwch, hefyd.

Mae angen gwella’r cyfathrebu ynghylch hyblygrwydd a chynnydd yn y gweithlu hefyd, fel bod anesthetyddion yn gallu gwella’r cydbwysedd rhwng eu bywydau personol a’u gwaith ac aros mewn gwaith “mor hir ac mor iach” â phosib, meddai.

Dywedodd Pauline Elliott, cadeirydd pwyllgor lleyg y Coleg: “Yn aml, dyw cleifion sy’n aros am lawdriniaethau mawr ddim yn sylwi na all y llawdriniaeth ddigwydd heb anesthetydd.

“Rhaid rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â phwysau ar weithleoedd yn effeithiol neu bydd miliynau’n fwy yn gorfod dioddef poen, pryder, anesmwythder, a chyfyngiadau ar eu bywydau wrth iddyn nhw aros am lawdriniaethau sydd wedi’u haddo iddyn nhw.”