Mae bron i 70% o drenau Cymru dros 30 oed, a phob un ohonyn nhw’n hŷn na 20 oed.

Wrth ymateb i’r ystadegau a gafodd eu rhannu gyda’r Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd llefarydd trafnidiaeth y blaid bod rhethreg Llywodraeth Cymru ynghylch gweithredu ar newid hinsawdd yn “wag” yn sgil oed y trenau.

Mae trenau Cymru yn 30 oed ar gyfartaledd, a dangosodd yr ystadegau bod 44% o drenau yn 35 oed neu’n hŷn, a 69% ohonyn nhw dros 30 oed.

Dros y pandemig, mae nifer o broblemau gyda threnau gorlawn wedi dod i’r amlwg, ac yn ddiweddar dangosodd un arolwg bod 22% o bobol yng Nghymru yn credu bod eu gwasanaethau trên lleol yn “wael”.

“Siomedig”

Dywedodd Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “siomedig”, ond heb ei synnu, wrth weld nad yw cynllun Llywodraeth Cymru i bwysleisio’r angen i bobol defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei gefnogi â gweithredoedd.

“Rydyn ni angen rhwydwaith drafnidiaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol, yn enwedig trenau modern, bysus trydan, a safleoedd gwefru cyflym ar gyfer ceir trydan dros Gymru,” meddai.

“Os yw gweinidogion Llafur o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â newid hinsawdd a’r oedi rheolaidd ar drafnidiaeth gyhoeddus, maen nhw angen sicrhau bod gan Gymru wasanaeth rheilffordd fodern. Dyna’r gwir, yn syml.”