Mae chwarter (24%) pobol ifanc Cymru’n dweud na fyddan nhw byth yn dod dros effaith emosiynol y pandemig, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl yr adroddiad, mae hapusrwydd pobol ifanc rhwng 16 a 25 oed yn is nag y mae wedi bod ers 13 mlynedd hefyd.

Dangosa Mynegai Ieuenctid Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru a NatWest bod 56% o bobol ifanc Cymru’n teimlo eu bod wedi ymlâdd ar ôl y pandemig, ac roedd 55% wedi profi teimladau o gasáu eu hunain.

Dywedodd 44% o’r 2,106 person ifanc atebodd yr arolwg bod y pandemig wedi cael effaith negyddol hirdymor ar eu lefelau straen.

Fe wnaeth y pandemig waethygu iechyd meddwl 46% o’r rhai atebodd yr arolwg, a dywedodd 28% eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n mynd i fod yn fethiant yn eu bywydau.

Yn ogystal, dywedodd 59% eu bod nhw’n teimlo’n fwy pryderus nawr na chyn y pandemig.

“Lledu’r bwlch i’r rhai mwyaf difreintiedig”

Yn gyffredinol, canfuwyd bod llesiant a hyder ymhlith pobl ifanc sydd allan o waith, neu addysg, neu o gefndiroedd tlotach yn gyson waeth ym mhob rhan o’r mynegai.

Yn achos y rhai hynny nad ydynt mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant eu sydd o gefndiroedd tlotach, sef yn cael prydau ysgol am ddim, mae chwarter y bobol ifanc (23% a 26%) yn dweud eu bod yn teimlo’n bryderus drwy’r adeg o’i gymharu â 15% o’u cyfoedion sydd mewn gwaith neu addysg ac 16% o bobol ifanc yn gyffredinol.

Dywedodd Sarah Jones, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Tywysog, y bydd y pandemig yn “graith am oes ar bobol ifanc” os nad oes gweithredu nawr.

“Bydd y dirywiad brawychus hwn, o ran gorbryder, straen a diffyg hyder yn y dyfodol, yn effeithio ar bobol ifanc heddiw ac ar genedlaethau’r dyfodol, tra’n lledu’r bwlch i’r rhai mwyaf difreintiedig.

“Gyda’r gefnogaeth iawn gan fusnesau, y llywodraeth ac elusennau gallwn newid hyn a sicrhau bod gan bobol ifanc y sgiliau iawn a’r hyder i deimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’u gwaith yn y dyfodol, ac am eu bywydau yn gyffredinol.”

“Teimlo’n isel”

Isaac Langran

Mae Isaac Langran, sy’n 21 oed ac yn dod o Gastell-nedd, wedi cael trafferth â’i iechyd meddwl a’i hunanhyder drwy gydol y pandemig, ond llwyddodd i gwblhau gradd mewn gwleidyddiaeth dros yr haf.

Roedd yn ansicr o’r camau nesaf i’w cymryd, ond cafodd ei gyfeirio at raglen gan Ymddiriedolaeth y Tywysog i helpu pobol ifanc i roi hwb i’w hyder a dysgu sgiliau newydd.

“Mae gen i awtistiaeth, ac mae cael trefn glir yn help mawr i mi,” meddai Isaac Langran.

“Tarfodd y pandemig ar y drefn honno gan effeithio nid yn unig ar fy mherfformiad academaidd, ond hefyd ar fy iechyd meddwl mewn ffordd wael iawn.

“Ar ôl graddio roeddwn i’n ddi-waith, heb unrhyw brofiad gwaith, ac roedd bod gartref drwy’r amser yn gwneud i mi deimlo’n isel. Doeddwn i ddim yn teimlo bod modd cyflawni unrhyw un o fy nodau yn y dyfodol.”

Roedd Isaac Langran yn nerfus iawn i ddechrau’r cwrs, meddai.

“Roedd teithio i Gaerdydd i gyfarfod pobl yn newid enfawr i mi, gan mai gwaith ar-lein neu ryngweithio oeddwn i wedi’i wneud yn bennaf ers dros flwyddyn.

“Roeddwn i’n ofnus iawn, ond cyn gynted ag y gwnes i gyfarfod y bobol ifanc eraill ar y cwrs a dod i adnabod staff Ymddiriedolaeth y Tywysog, ciliodd llawer o fy ofnau.”

Ar ddiwedd y cwrs, cofrestrodd ar gyfer rhaglen Manwerthu’r Ymddiriedolaeth mewn partneriaeth a M&S, a dywedodd nad oedd yn teimlo bod ganddo’r hyder i ymgysylltu â phobol ddieithr cyn hynny.

“Rwy’n eithaf swil ar y cyfan, felly ar y diwrnod cyntaf yr oeddwn yn nerfus ynghylch sut i ateb cwestiynau cwsmeriaid, ond cefais fy nhrin fel un o’r gweithwyr ac roedd cael cyfrifoldeb yn hwb enfawr i fy hyder.

“Erbyn hyn mae gen i 160 o oriau o brofiad gwaith mewn siop fanwerthu y gallaf ei roi ar fy CV, ac rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gael fy swydd gyntaf erioed o ganlyniad i brofiad a gafwyd ar y cwrs hwn.

“Cyn ymuno â’r Prince’s Trust ychydig iawn o hunanhyder oedd gen i yn ogystal â diffyg profiad a sgiliau bywyd. Nawr rwy’n teimlo’n barod i wynebu unrhyw beth!”