Mae ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw (23 Chwefror).
Bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer Amser i Newid Cymru yn sicrhau bod modd ymestyn y rhaglen tan 2025.
Bwriad Amser i Newid Cymru yw herio a newid agweddau ac ymddygiadau negyddol tuag at salwch meddwl. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: partneriaethau, cyflogwyr a’r gweithlu, iechyd a gofal cymdeithasol, a marchnata cymdeithasol. Mae’r ymgyrch yn cael ei chyflwyno gan bartneriaeth rhwng dwy elusen yng Nghymru, sef Mind Cymru ac Adferiad Recovery.
Bydd y cyfnod newydd o waith yn canolbwyntio’n benodol ar weithio gyda chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a chyflogwyr mewn ardaloedd o dlodi ac amddifadedd. Yn y gorffennol, mae’r rhaglen wedi canolbwyntio ar gynyddu cysylltiadau â dynion drwy’r ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig, yn ogystal â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n cymryd rhan.
Un rhan allweddol o Amser i Newid Cymru yw cydweithio â chyflogwyr i greu diwylliannau sy’n fwy agored i drafod iechyd meddwl yn y gwaith, yn ogystal â rhoi adnoddau ymarferol iddyn nhw gan gynnwys hyfforddiant a Phecyn Cymorth i Gyflogwyr.
Mae tua un o bob pedwar gweithlu yng Nghymru eisoes wedi ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch, gan gynrychioli tua 320,000 o weithwyr. Mae’r sefydliadau sydd wedi ymuno yn cynnwys sefydliadau’r trydydd sector, pedwar llu heddlu Cymru, yr holl fyrddau iechyd, cwmnïau preifat a Busnesau Bach a Chanolig.
Stigma iechyd meddwl
Bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer Amser i Newid Cymru hefyd yn sicrhau bod modiwl dysgu newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a gwella profiadau cleifion. Mae hyn yn dilyn treial llwyddiannus yn ystod 2021-22.
Bydd Amser i Newid Cymru hefyd yn parhau i recriwtio Eiriolwyr sydd â phrofiad o salwch meddwl. Mae’r rhain yn rhoi cymorth i eraill rannu eu straeon yn ogystal â rhoi cyflwyniadau a hyfforddiant gwrth-stigma i grwpiau cymunedol, gweithleoedd a sefydliadau. Hyd yma, mae dros 50 o eiriolwyr yn gweithio ledled Cymru.
“Y pandemig wedi cael effaith anghymesur”
Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Rwy’n falch ein bod yn gallu sicrhau cyllid ychwanegol i helpu ymestyn Amser i Newid Cymru. Mae’r prosiect o gymorth i roi terfyn ar wahaniaethu yn ogystal ag annog pobl i gael sgyrsiau agored a gonest ynglŷn ag iechyd meddwl.
“Rydym yn gwybod bod y pandemig wedi cael effaith anghymesur ar y rhai hynny o gymunedau Du ac Ethnig Leiafrifol ac rwy’n falch y bydd Amser i Newid Cymru yn canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau gan ddefnyddio’r cyllid newydd hwn.
“Mae nifer ohonom yn treulio llawer o’n bywyd dyddiol yn y gwaith felly mae’n hollbwysig ein bod yn creu amgylcheddau gwaith sy’n cefnogi unigolion pan fyddan nhw’n wynebu salwch, boed hynny’n salwch meddyliol neu gorfforol. Rwy’n gobeithio y bydd y cyllid sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn datblygu’r momentwm y mae Amser i Newid Cymru wedi’i gyflawni eisoes.”
‘Mwy o waith i’w wneud’
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae iechyd meddwl da yn gwbl hanfodol i alluogi pobl i fyw bywydau iach, hapus a bodlon.
“Rwyf felly yn hynod o falch bod yr ymgyrch bwysig hon yn cael ei hymestyn. Bydd ganddi ffocws penodol ar lesiant pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn ogystal â mewn gweithleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
“Er ein bod wedi sicrhau cynnydd da, mae mwy o waith i’w wneud er mwyn sicrhau ein bod yn creu Cymru sy’n iachach, yn decach ac yn fwy ffyniannus y mae pawb ohonom eisiau ei gweld.”
‘Rhoi llwyfan i leisiau nad ydyn nhw’n cael eu clywed’
Dywedodd June Jones, Rheolwr Dros Dro Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous a phwysig i Amser i Newid Cymru. Byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi llwyfan i leisiau nad ydyn nhw’n cael eu clywed ar hyn o bryd yn ogystal â gwella’r ddealltwriaeth ynglŷn ag iechyd meddwl ar draws pob ardal yng Nghymru.”