Mae canlyniadau profion gwaed wedi cadarnhau bod y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi cael ei wenwyno gan garbon monocsid cyn ei farwolaeth mewn damwain awyren.
Roedd yr ymosodwr o’r Ariannin newydd ymuno gyda chlwb pêl-droed Caerdydd o Nantes yn Ffrainc am £15 miliwn pan fu farw yn 2019.
Fe glywodd Llys y Crwner Dorset bod Emiliano Sala, 28 oed, yn teithio mewn awyren breifat rhwng y ddwy ddinas ar 21 Ionawr 2019 pan blymiodd yr awyren i’r Sianel ger Guernsey.
Bu hefyd farw’r peilot David Ibbotson, 59 oed, ond nid yw ei gorff wedi cael ei ddarganfod.
Doedd gan y peilot David Ibbotson ddim trwydded i wneud hediadau masnachol, na chymhwyster i yrru yn y nos, na’r hawl i hedfan awyrennau Piper Malibu, ac mae’n ymddangos bod Henderson yn ymwybodol o hynny.
Gwenwyno
Fe wnaeth y cwest i farwolaeth Emiliano Sala ail-ddechrau ddydd Mawrth (22 Chwefror) ar ôl cael ei ohirio wythnos diwethaf am resymau cyfreithiol.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y patholegydd Dr Basil Purdue fod Emiliano Sala wedi marw oherwydd anafiadau i’w ben a’i frest yn sgil gwrthdrawiad yr awyren â’r dŵr.
Ond mae canlyniadau prawf gwaed sydd wedi eu datgelu i’r cwest heddiw yn awgrymu y byddai’r Archentwr wedi bod yn “anymwybodol” yn ystod y gwrthdrawiad, oherwydd ei fod wedi ei “wenwyno’n ddifrifol” gan garbon monocsid.
Ychwanegodd Dr Purdue fod samplau o’i waed wedi dangos bod lefel y carbon monocsid yn ei waed yn 58%, ac mae’n debyg mai system ecsôst yr awyren oedd yn gyfrifol am y gwenwyno.
‘Dyna’r cyfan y gallem ni ei gael’
Cafodd dau sampl eu cymryd o waed Sala – un ar gyfer profion carbon monocsid a phrofion DNA er mwyn adnabod y corff, ac un ar gyfer profion pellach yng Nghanada.
Eglurodd Dr Basil Purdue nad oedd modd cymryd mwy na dau sampl o’r gwaed oherwydd cyflwr ei gorff pan gafodd ei ddarganfod.
“Pe bai gennyn ni fwy o waed, byddwn i wedi cymryd mwy o samplau. Mae’r ffaith mai dim ond un botel oedd gennyn ni yn dangos mai dyna’r cyfan y gallem ni ei gael,” meddai.
Fe glywodd y cwest hefyd fod yr awyren Piper Malibu wedi gadael maes awyr Nantes am 7:15yh ar 21 Ionawr, 2019, ar gyfer yr hediad i Gaerdydd, a bod cyswllt radar wedi ei golli am 8.15yh ger ynys Guernsey.
Cafodd yr awyren ei chanfod ar wely’r môr ar 3 Chwefror, 2019, a daeth yr ymchwilwyr o hyd i gorff Sala yng nghanol y gweddillion dridiau yn ddiweddarach.
Mae disgwyl i’r cwest, sy’n cael ei gynnal yn Neuadd y Dref, Bournemouth, bara tua mis.