Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi gorfod gohirio eu gêm yn erbyn Bournemouth nos yfory (nos Fawrth, Chwefror 22).

Daw hyn ar ôl i Storm Eunice achosi difrod i Stadiwm Swansea.com, ac yn sgil hynny, dydy’r gêm yn y Bencampwriaeth yn methu â chael ei chyflawni oherwydd “rhesymau diogelwch”.

Fe wnaeth yr Awdurdod Trwyddedu a’r clwb archwilio’r stadiwm fore heddiw (dydd Llun, Chwefror 21), a daethon nhw i’r casgliad na fydd hi’n bosib cwblhau’r archwiliad hwnnw’n llawn tan fydd y tywydd garw yn clirio.

Penderfynon nhw nad oedd modd gorffen yr archwiliad a thrwsio’r difrod erbyn y gêm yfory, felly roedd yn rhaid iddyn nhw ei gohirio am y tro.

Mewn datganiad, dywed Clwb Pêl-droed Abertawe fod y penderfyniad wedi ei wneud “oherwydd y risgiau sy’n deillio o’r difrod ac mewn da bryd i osgoi gweld chwaraewyr, staff a chefnogwyr yn teithio i dde Cymru.”

Does dim dyddiad newydd wedi ei gadarnhau ar gyfer y gêm, ond mae’r clwb yn dymuno sicrhau cefnogwyr y bydd tocynnau a threfniadau lletygarwch yn ddilys yn y dyfodol.

Fe fydd cefnogwyr sy’n methu â gwylio’r gêm bryd hynny, neu sydd wedi prynu pàs ffrydio i’r gêm, yn cael ad-daliad.

Ar hyn o bryd, mae Bournemouth yn ail yn y Bencampwriaeth, tra bod y golled drom o 4-0 yn erbyn Sheffield United dros y penwythnos yn gadael Abertawe yn yr 17eg safle.