Mae teyrngedau wedi eu rhoi gan y byd chwaraeon i un o gyn-hyfforddwyr tîm rygbi Cymru, Steve Black, sydd wedi marw yn 64 oed.
Yn ystod ei yrfa, roedd wedi croesi yn ôl ac ymlaen rhwng pêl-droed a rygbi fel hyfforddwr, ac roedd yn fwyaf adnabyddus am hyfforddi clybiau ei ddinas enedigol, Newcastle United a Newcastle Falcons.
Roedd yn cael ei ddisgrifio fel “un mewn miliwn” a “ffrind i bawb”, ac roedd yn arbenigo yn yr elfen feddyliol a chymhelliant o’r campau.
Cafodd ei recriwtio i hyfforddi o dan Graham Henry ar ddiwedd y 1990au, ac fe chwaraeodd ran yn rhediad y tîm ym 1999 pan enillon nhw 10 gêm ar ôl ei gilydd, gan gynnwys y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn Wembley.
Bu hefyd yn gweithio gyda thîm rygbi’r Llewod, a thimau pêl-droed Sunderland, Queens Park Rangers, a Huddersfield.
‘Person mwyaf positif’
Dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw’n “gyrru eu cydymdeimladau i deulu a holl ffrindiau Steve Black”.
Roedden nhw’n dyfynnu geiriau’r hyfforddwr Graham Henry, a oedd yn disgrifio Black fel “y person mwyaf positif imi ddod ar ei draws”.
“Drwy ei bresenoldeb, fe gynyddodd y teimlad da o fewn y garfan, a gwneud i bawb deimlo’n groesawgar ac yn bwysig,” meddai Graham Henry yn ei lyfr, Henry’s Pride – Inside The Lions Tour Down Under.
“Roedd yn arfer dweud ‘beth bynnag y gall y meddwl ei ddychmygu, gall y corff ei gyflawni’. Roedd yn magu hyder trwy anogaeth.
“Pan adawodd Gymru roeddwn i’n teimlo fy mod wedi colli hanner fy ysbryd rygbi. Roeddwn i’n rhagweld siâp tactegol gêm a’r rolau unigol o fewn y siâp hwnnw, tra’i fod o’n dod â phob chwaraewr yn fyw i’w rôl.”
‘Deall gwerth pobol, a sut i’w hysbrydoli nhw’
Fe wnaeth ‘Blackie’, fel roedd yn cael ei adnabod gan sawl un, weithio gyda chlwb rygbi Newcastle Falcons ar ddau achlysur, ac roedd yn rhan o’r tîm a enillodd Uwchgynghrair Lloegr yn 1998, a oedd yn cynnwys Jonny Wilkinson.
Dywedodd y clwb ei fod yn “guriad calon ysbrydol” yn ystod ei gyfnodau gyda nhw, ei fod yn “deall gwerth pobol, a sut i’w hysbrydoli nhw”, a’i fod yn “ffrind i bawb”.
Roedd o hefyd wedi gweithio gyda chlwb Newcastle United o dan reolaeth Kevin Keegan yn y 1990au, gan ddychwelyd yno yn nhymor 2015/16.
Fe wnaeth yr hyfforddwr a’r cyn-chwaraewr Terry McDermott, a gyd-weithiodd gydag o yn ystod ei gyfnod cyntaf yn y clwb, ddweud ei fod “wedi ei lorio gan y newyddion”.
“Dydy geiriau’n methu â chyfiawnhau cymaint o ddyn oedd o, a bydd pawb oedd yn ei adnabod yn ei golli gymaint,” meddai.
Ychwanegodd Alan Shearer, prif arwr Newcastle United yn ystod y 1990au, bod y newyddion yn “erchyll”.
Roedd cyn-gapten Cymru, Gareth Thomas, wedi ei ddisgrifio fel “un mewn miliwn” yn ei fywgraffiad Alfie, a gafodd ei gyhoeddi 2008, tra bod cyn-gapten Lloegr, Jonny Wilkinson, yn dweud mai fe oedd “y gorau am beth oedd yn ei wneud”.