Er i’r tywydd gael y gorau o ambell gêm y penwythnos hwn ond fe oroesodd y mwyafrif gan roi cyfle arall i bêl droedwyr Cymru greu  argraff ar Rob Page.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Connor Roberts a oedd un o chwaraewyr gorau Burnley wrth iddynt gael buddugoliaeth gyfforddus yn Brighton ddydd Sadwrn. Roedd cefnwr Cymru eisoes wedi taro’r trawst gyda chynnig da cyn creu’r gôl agoriadol i Wout Weghorst. Aeth y Clarets ymlaen i ennill o dair i ddim a chodi o waelod y tabl. Ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey.

Connor Roberts

Daeth canlyniad y penwythnos yn yr Etihad wrth i Tottenham guro Man City o dair gôl i ddwy gyda gôl hwyr Harry Kane. Roedd Ben Davies yn rhan o amddiffyn cadarn Spurs ond ar y fainc yr oedd Joe Rodon.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Fin Stevens wrth i Brentford golli yn erbyn Arsenal.

Dechreuodd Dan James i Leeds yn erbyn ei gyn glwb, Man U, ddydd Sul gan greu gôl dda i Raphinha i unioni pethau’n ddwy gôl yr un yn gynnar yn yr ail hanner. Yn anffodus i James, aeth ei dîm ymlaen i golli o bedair gôl i ddwy. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Tyler Roberts.

Dechrau ar y fainc a wnaeth Danny Ward hefyd, yn ôl ei arfer wrth i Gaerlŷr deithio i Wolverhampton.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Gaerdydd groesawu Blackpool i Stadiwm y Ddinas ddydd Sadwrn. Dechreuodd Will Vaulks ac Isaak Davies i’r Adar Gleision a daeth Mark Harris ymlaen fel eilydd yn lle Davies gyda deuddeg munud yn weddill. Daeth hynny wedi i Harris sgorio gôl dda i sicrhau buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Peterborough ganol wythnos.

Nid oedd Rubin Colwill yng ngharfan Caerdydd, na Eli King ychwaith, er i’r chwaraewr canol cae ifanc ddechrau yn annisgwyl yn y gêm ganol wythnos. Mae Chris Maxwell yn parhau i fod yn absennol o garfan Blackpool oherwydd anaf.

Dau bwynt yn unig sydd yn gwahanu Caerdydd ac Abertawe yn y tabl erbyn hyn wedi i’r Elyrch gael cweir o bedair i ddim yn erbyn Sheffield United. Prynhawn i’w anghofio felly i Ben Cabango yng nghanol amddiffyn Abertawe ond un llawer gwell i Rhys Norrington-Davies, yn dechrau’r gêm i Sheffield United ac yn creu’r ail gôl i George Baldock.

Mae Fulham yn aros ar frig y tabl er iddynt brofi colled brin yn erbyn Huddersfield. Dechreuodd Neco Williams a Harry Wison y gêm, gyda Williams yn creu gôl hwyr i Bobby Decordova-Reid. Roeddynt eisoes ddwy i ddim ar ei hôl hi erbyn hynny, gyda Sorba Thomas yn chwarae’i ran, yn ennill y gic o’r smotyn ar gyfer yr ail.

Prynhawn cymysg a oedd hi i Tom Lawrene dydd Sadwrn. Cafodd ei dîm, Derby, fuddugoliaeth bwysig yn erbyn Peterborough mewn brwydr waelod y tabl, yn ennill gyda gôl hwyr a chodi dros eu gwrthwynebwyr yn y tabl ac o fewn pum pwynt i’r safleoedd diogel. Ond digwyddodd hynny wedi i’r capten, Lawrence, gael ei anfon oddi ar y cae yn gynnar yn yr ail hanner am godi ei fraich ar Nathan Thompson.

Ag yntau ddim ond yn 17 oed, fe sgoriodd Jordan James ei gôl gyntaf dros Birmingham ddydd Sadwrn, yn agor y sgorio mewn gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Stoke. Roedd wyneb yn wyneb â Chymro arall bedair blynedd ar ddeg yn hyn nag ef yng nghanol cae wrth i Joe Allen ddechrau i Stoke. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Morgan Fox ond nid oedd Adam Davies na James Chester yn y garfan.

Roedd Tom Lockyer yn rhan o dîm buddugol wrth i Luton guro West Brom o ddwy gôl i ddim ond colli a fu hanes Neil Taylor gyda Middlesbrough yn erbyn Bristol City, dwy gôl i un y sgôr.

Dechreuodd Andrew Hughes i Preston yn erbyn Reading a daeth Ched Evans oddi ar y fainc yn gynnar yn ar ail hanner. Creodd y blaenwr argraff yn syth hefyd gan greu gôl i Daniel Johnson. Yn anffodus i Evans a Preston, roedd Reading eisoes dair gôl i ddim ar y blaen, tair i ddwy’r sgôr terfynol.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd George Thomas wrth i QPR gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Hull.

Cafodd Chris Mepham a Brennan Johnson y penwythnos i ffwrdd wedi i’r gêm rhwng Bournemouth a Nottingham Forest nos Wener ildio i Storm Eunice.

 

*

 

Cynghreiriau is

Daeth gêm y penwythnos yn Adams Park wrth iddi orffen yn gyfartal pum gôl yr un rhwng Wycombe a Cheltenham! Dechreuodd Joe Jacobson a Sam Vokes i Wycombe gyda dwy gôl gan Vokes hanner ffordd trwy’r ail hanner yn rhoi’r tîm cartref bum gôl i dair ar y blaen. Owen Evans a oedd yn y gôl i Cheltenham ac roedd Ben Williams yn rhan o’r amddiffyn rhidyllog hefyd.

Er mai dechrau ar y fainc a wnaeth Luke Jephcott i Plymouth yn erbyn Gillingham, fe lwyddodd i greu argraff, yn sgorio o’r smotyn dri munud yn unig ar ôl dod i’r cae i selio buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim. Chwaraeodd James Wilson yn yr amddiffyn hefyd ac roedd ymddangosiad byr i Ryan Broom oddi ar y fainc.

Wes Burns a oedd un o sêr Ipswich wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Burton, yn creu’r gôl agoriadol ym munud cyntaf y gêm cyn rhwydo’r ail ei hun. Chwaraeodd Lee Evans yng nghanol cae i’r Tractor Boys hefyd.

Roedd yna fuddugoliaeth gyfforddus i Bolton, yn curo Wimbledon o bedair gôl i ddim. Dechreuodd Gethin Jones a Declan John yn ôl eu harfer ond ar y fainc yr oedd Jordan Williams am newid. Mae Josh Sheahan a Lloyd Isgrove yn parhau i fod wedi’u hanafu.

Pedair i ddim a oedd y sgôr yn y Valley hefyd wrth i Charlton golli gartref yn erbyn Rhydychen. Chwaraeodd Adam Matthews fel cefnwr de i’r Addicks ond nid oedd golwg o Chris Gunter yn y garfan. Roedd Billy Bodin yn absennol i Rydychen oherwydd anaf, siom ag yntau wedi bod yn chwarae mor dda’n ddiweddar.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Matthew Smith wrth i MK Dons ennill yn Sunderland ac felly hefyd Gwion Edwards wrth i Wigan gael gêm gyfartal yn Rotherham.

Roedd gemau Crewe yn Portsmouth a Lincoln yn Fleetwood ymhlith y rhai i gael eu gohirio oherwydd y tywydd.

Yn yr Ail Adran, chwaraeodd Jonny Williams hanner awr olaf buddugoliaeth Swindon yn erbyn Carlisle ond roedd ei dîm eisoes wedi sicrhau’r tri phwynt erbyn hynny, tair i ddim y sgôr.

Dyna’r sgôr wrth i Colchester golli yn Northampton hefyd. Chwaraeodd Emyr Huws y 70 munud cyntaf i’r ymwelwyr.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Roedd munudau’n brin i’r Cymry yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn. Mae Marley Watkins a Ryan Hedges yn parhau i fod allan o garfan Aberdeen ac eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Christian Doidge wrth i Hibs guro Ross County gartref. Daeth Alex Samuel oddi ar y fainc am ychydig funudau i’r ymwelwyr.

Eilydd hwyr a oedd Morgan Boyes i Livingston yn eu buddugoliaeth hwy yn erbyn St Mirren hefyd. Cafodd Ben Woodburn bron i hanner awr yng ngêm Hearts ond colli fu hanes ei dîm o ddwy gôl i un yn erbyn St Johnstone.

Roedd hi’n stori gyfarwydd i Aaron Rasmey ddydd Sul wrth iddo fethu gêm Rangers gyda Dundee United oherwydd anaf. Roedd yn holliach ar gyfer y gêm yng Nghynghrair Europa nos Iau ond dechrau ar y fainc a wnaeth o gan chwarae pum munud yn unig o’r fuddugoliaeth gofiadwy, pedair gôl i ddwy.

Fe wnaeth un chwaraewr canol cae o Gymru serennu yn y gêm ddydd Sul serch hynny; Dylan Levitt yn dechrau i United ac yn creu’r gôl agoriadol i Ross Graham cyn i Rangers daro nôl i gipio pwynt.

Dylan Levitt

Yn Sbaen, gwylio o’r fainc a wnaeth Gareth Bale wrth i Real Madrid drechu Alaves o dair gôl i ddim nos Sadwrn. Dechrau ar y fainc a wnaeth yn y golled ganol wythnos yn erbyn PSG yng Nghynghrair y Pencampwyr hefyd ond fe gafodd ychydig o funudau fel eilydd hwyr yn y gêm honno.

Mae tymor Rabbi Matondo ar y llaw arall yn mynd o nerth i nerth yng Ngwlad Belg. Sgoriodd ail gôl Cercle Brugge wrth iddynt guro Beerschot o ddwy i ddim ddydd Sadwrn, ei wythfed gôl gynghrair o’r tymor.

Ni oedd James Lawrence yn y garfan wrth i St Pauli golli’n drwm yn erbyn Hannover 96 ddydd Sul a llithro i’r pedwerydd safle yn nhabl y 2. Bundesliga.

Cododd Venezia allan o safleoedd disgyn Serie A gyda gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Genoa ddydd Sul. Chwaraeodd Ethan Ampadu’r gêm gyfan yng nghanol cae.