Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bod clwb pêl-droed Dinas Bangor wedi penderfynu gadael cynghrair y Cymru North.
Nid yw’r clwb wedi chwarae ers rhai misoedd, ac roedd gofyn iddyn nhw dalu dirwyon am fethu â chwarae gemau er mwyn cael unrhyw siawns o ddychwelyd i’r cae eleni.
Penderfynodd y clwb i adael y gynghrair, ac mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi derbyn eu bod nhw yn gadael.
Mae eu canlyniadau yng nghynghrair y Cymru North hyd yma y tymor hwn wedi eu dileu, a bydd y gynghrair yn parhau gydag un tîm yn llai am weddill y tymor.
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn dweud eu bod nhw’n ystyried gosod mwy o gosb ar y clwb, a fyddan nhw yn penderfynu ar hynny mewn cyfarfod o Fwrdd Cenedlaethol y Gynghrair ar 1 Mawrth.
‘Ffactorau mewnol ac allanol’
Mewn cyfweliad â gwasanaeth newyddion The Bangor Aye, dywedodd cadeirydd Bangor bod y clwb wedi wynebu sefyllfa ariannol anodd oherwydd Covid.
“Yng nghanol pandemig Covid-19, fel y mwyafrif o glybiau’r byd, mae’r clwb yn mynd trwy sefyllfa gymhleth,” meddai Domenico Serafino.
“Ar ben hynny, mae amryw o ffactorau mewnol ac allanol wedi arwain y clwb i’r sefyllfa argyfyngus y mae ynddi heddiw.
“Roedd y clwb yn sefydlog a chadarn, ac roedd rhagolygon cadarnhaol ar gyfer y dyfodol, ond cafodd llawer o benderfyniadau eu gwneud heb fy nghymeradwyaeth.
“Yn ogystal â’r holl anghydbwysedd economaidd hwn, dechreuodd canlyniadau gwael ymddangos hefyd, felly roedd y clwb yn gweithredu ar gyllideb cyflogau oedd uwchlaw ei realiti.
“Mae’r casgliad hwn o sefyllfaoedd yn anochel wedi arwain at orfod tynnu allan o’r gystadleuaeth.”
Dywedodd Serafino mai bwriad y clwb “wastad yw gwneud ceisiadau i ymuno â chynghreiriau Cymru,” ac fe honnodd y byddai dyledion yn “cael eu clirio”.
Ychwanegodd y cadeirydd nad oedd y clwb ar werth, er gwaetha’r adroddiadau yn gynharach yr wythnos hon.
Gan gyfeirio at y cefnogwyr, roedd yn dymuno diolch iddyn nhw ac yn mynnu y byddan nhw’n “parhau i frwydro a dychwelyd Dinas Bangor yn ôl i’w hen ogoniant.”