Llwyddodd y Cymro Gerwyn Price o sir Caerffili i orffen dwy gêm gyda naw dart wrth iddo ennill trydedd noson Uwch Gynghrair y Dartiau yn Belfast neithiwr (nos Iau, Chwefror 17).
Curodd y gŵr o Markham y Sais James Wade o 6-4 yn y rownd derfynol, a hynny ar ôl trechu’r Iseldirwr Michael van Gerwen o 6-5 yn y rownd gyn-derfynol.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Price wedi codi i’r ail safle yn y tabl, y tu ôl i’w gyd-Gymro a’r pencampwr y llynedd, y Cymro Cymraeg Jonny Clayton o Bontyberem.
“Heno, roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n gallu methu,” meddai Price ar ôl gorffen y noson gyda chyfartaledd tri dart o 107.58 ar y noson.
“Chwaraeodd Michael yn dda iawn yn fy erbyn i, dyna’r gêm orau dw i a James erioed wedi’i chael, felly dw i jyst yn ddiolchgar fy mod i wedi cael y gorau o’r gemau hyn.
“Dw i’n chwarae’n dda, dw i’n teimlo’n dda ynof fi fy hun a dw i’n credu bod hynny’n rhannol am i fi ddychwelyd i’r gampfa ac edrych ar ôl fy hun.
“Dw i bron â bod yn ôl ar fy ngorau – wel, dw i’n credu fy mod i yno, efallai.”
Gweddill y noson
Dechreuodd Gerwyn Price y noson gyda buddugoliaeth o 6-3 dros y Sais Michael Smith yn rownd yr wyth olaf.
Cyrhaeddodd James Wade y rownd gyn-derfynol ar ôl curo Jonny Clayton o 6-3 ac yna Peter Wright o 6-4.
Roedd Wright eisoes wedi curo’i gyd-Albanwr Gary Anderson o 6-4 yn rownd yr wyth olaf, tra bod van Gerwen wedi dechrau gyda buddugoliaeth o 6-3 dros y Sais Joe Cullen.
Bydd y bedwaredd noson, nos Iau nesaf (Chwefror 24), yn cael ei chynnal yng Nghaerwysg.
Paffio
Daeth cadarnhad erbyn hyn fod Gerwyn Price am droi at gamp newydd sbon eto.
Mae’r cyn-chwaraewr rygbi eisoes wedi dod yn bencampwr y byd dartiau yn y PDC, ac mae e nawr yn troi ei sylw at baffio.
Mae gornest wedi’i threfnu yn erbyn Rhys Evans o Fleur de Lys i godi arian at ganolfan ganser Velindre yng Nghaerdydd.
“Ychydig o jôc oedd hi i ddechrau, ond dw i’n meddwl bod pethau wedi mynd yn eithaf difrifol!” meddai.
“Roedd un o fy mêts yn arfer bod yn broffesiynol, ac yn baffiwr da iawn hefyd.
“Dw i’n gorfod ymarfer a chael fy hun yn barod, neu bydda i’n edrych yn dwp.
“Mae hyn ar gyfer achos da, at Ymchwil Canser Cymru a Velindre.
“Mae’n mynd i fod yn dda, ac at achos da, a dw i’n edrych ymlaen at hynny.
“Dw i ddim yn gwybod lot fawr am baffio, a dw i ddim yn gwybod pam fy mod i’n mentro i’r sgwâr…”