Mae’r sylwebydd Gareth Charles wedi dweud ei fod yn pryderu bod “llais arian yn gryfach na llais rygbi”, ar ôl i adroddiadau ddatgelu cynlluniau i gynnwys De Affrica fel rhan o’r Chwe Gwlad o 2025 ymlaen.
Roedd y Daily Mail yn adrodd y gallai’r Springboks gymryd lle’r Eidal yn y gystadleuaeth mewn tair blynedd, wrth i’r wlad geisio chwarae mwy o ran mewn rygbi Ewropeaidd.
Ers 2017, mae rhai o’u prif glybiau rygbi wedi bod yn chwarae yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, ac am y tro cyntaf y tymor nesaf, bydd y clybiau hynny’n gallu chwarae yng Nghwpan y Pencampwyr Ewrop
Mae’n debyg bod buddsoddiad diweddar cwmni CVC ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ffactor mawr y tu ôl i’r awch i wahanu oddi wrth gweddill gwledydd hemisffer y de.
Fe wnaeth y cwmni ecwiti preifat o Brydain brynu cyfran gwerth £365 miliwn yn y gystadleuaeth y llynedd.
‘Yr effaith yn eang’
Er y byddai cael pencampwyr presennol y byd yn y bencampwriaeth yn siŵr o gynnig gemau mwy cystadleuol, dydy’r sylwebydd rygbi Gareth Charles ddim yn teimlo y byddai’n beth cadarnhaol ar y cyfan.
“I rygbi’n gyffredinol, dw i ddim yn credu bydde fe’n beth da,” meddai wrth golwg360.
“Byddai’r Eidal yn colli mas, cefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw. Hefyd, byddai rhywun fel yr Ariannin mewn bach o dwll, achos maen nhw wedi ymuno gyda phencampwriaeth hemisffer y de er mwyn cael mwy o rygbi.
“Felly mae’r effaith yn eang, ac yn amlwg nid rygbi fyddai’n gyrru’r peth ymlaen, ond y sefyllfa ariannol.
‘Troed yn y ddau hemisffer’
Ers sawl blwyddyn bellach, mae perthynas De Affrica gyda chorff rygbi hemisffer y de – SANZAAR – wedi bod o dan straen, sydd wedi eu gwthio nhw yn agosach at gystadlaethau hemisffer y gogledd.
“Ar y funud, mae ganddyn nhw droed yn y ddau hemisffer,” meddai.
“Mae’r rhanbarthau yn y bencampwriaeth unedig yn barod, ac maen nhw i fod i chwarae yng nghystadlaethau Ewrop y flwyddyn nesaf. A thrwy ymuno â’r Chwe Gwlad wedyn, mae’n golygu bod eu tymor nhw yn cydamseru gyda hemisffer y gogledd.
“Fel mae ar y funud, mae chwaraewyr eu rhanbarthau yn gorfod chwarae yn ystod ein gaeaf ni, ac wedyn chwarae Pencampwriaeth Rygbi hemisffer y de ym mis Awst.
“Yn ôl beth dw i’n deall – yn debyg i fel mae CVC wedi rhoi £365 miliwn i’r Chwe Gwlad, mae yna gwmni tebyg wedi rhoi arian mewn i rygbi Seland Newydd yn ddiweddar hefyd.
“Felly dw i’n meddwl bod De Affrica’n poeni rhywfaint ynglŷn â beth yw eu dyfodol nhw o fewn cyfundrefn SANZAAR, ac o ran hynny, maen nhw eisiau alinio eu hunain mwy gyda rygbi’r gogledd.”
Arrivederci i’r Eidal
Pe bai’r Eidal yn colli’r gêm nesaf yn erbyn Iwerddon wythnos nesaf, dyna fyddai’r canfed gêm iddyn nhw ei golli yn y Chwe Gwlad ers ymuno yn 2000.
Er hynny, mae Gareth Charles yn teimlo ei bod hi’n bwysig eu cadw yn y bencampwriaeth a rhoi cefnogaeth iddyn nhw i ddatblygu.
“Yn amlwg, dydy eu safon nhw ddim wedi bod gystal ag oedden ni wedi gobeithio amdano,” meddai.
“Dw i wedi dweud erioed mai bai’r awdurdodau yw hynny am eu bod nhw’n rhy hwyr yn gwadd yr Eidal i mewn i’r gystadleuaeth yn y man cyntaf.
“Pan wnaethon nhw ymuno, roedd lot o’u chwaraewyr nhw – fel Alessandro Troncon, Diego Dominguez, a Cristian Stoica – yn heneiddio, a’u gyrfaoedd nhw ar fin dod i ben, felly roedden nhw’n gwanhau o’r cychwyn.
“Yr eironi yw, fe wnaeth y tîm dan 20 guro Lloegr am y tro cyntaf erioed yn y gêm ddiwethaf, ac fe wnaethon nhw’n dda llynedd. Mae’r tîm dan 18 wedi bod yn gwneud yn eithaf da hefyd, felly mae chwaraewyr yn dechrau dod trwyddo.
“Eisiau cefnogaeth sydd arnyn nhw nawr i drio ehangu’r gêm yno.”
Arian yn siarad?
Er y byddai Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon yn chwarae De Affrica’n flynyddol, dydy Gareth Charles ddim yn teimlo y byddai hynny’n effeithio ar Deithiau’r Llewod yno.
Roedd e hefyd yn credu y byddai cefnogwyr yn “colli mas”, gan y bydden nhw’n gorfod teithio o gwmpas 6,000 o filltiroedd i weld eu timau’n chwarae.
“Mae’r Chwe Gwlad wedi bod yn geidwadol iawn dros y blynyddoedd,” meddai.
“Dim ond dau newid sydd wedi bod o fewn 140 mlynedd o’r gystadleuaeth – pan ddaeth Ffrainc i mewn yn y ganrif ddiwethaf, a’r Eidal yn dod i mewn ar ddechrau’r ganrif hon.
“Ceidwadol iawn ydyn nhw wrth natur, ond gan fod CVC wedi rhoi cymaint o arian i mewn a chael cymaint o siâr yn y Chwe Gwlad, mae eu llais nhw’n dod yn gryfach.
“Yr unig beth sy’n poeni fi yw bod llais arian yn gryfach na llais rygbi.”