Mae’r Urdd wedi cyhoeddi y bydd timau o dramor yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn un o’u cystadlaethau am y tro cyntaf erioed.

Bydd y Twrnamaint Rygbi 7 Bob Ochr, sy’n cael ei drefnu ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru, yn cael ei lansio heddiw (dydd Mercher, Chwefror 16).

Yn ôl yr Urdd, fe fydd y cystadlaethau yn “gwbl gynhwysol”, gyda chategorïau bechgyn, merched, ac anghenion arbennig, ac oherwydd bod y mudiad yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni, bydd 16 tîm o wledydd y Chwe Gwlad yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar gaeau Pontcanna a Llandaf yng Nghaerdydd rhwng Ebrill 4-8, ac mae disgwyl y bydd dros 400 o dimau a 5,000 o chwaraewyr yn cymryd rhan.

‘Rygbi yn gêm i bawb’

Mae’r Urdd yn annog plant a phobol ifanc sydd ag anghenion arbennig i gymryd rhan yn gystadleuaeth eleni, wrth i’r ŵyl rygbi gynnig cyfle i unigolion ddysgu sgiliau newydd, chwarae gemau TAG, a chael profiad o chwarae rygbi cadair olwyn hefyd.

“Mae rygbi yn gêm i bawb ac rydym yn arbennig o falch fod plant a phobl ifanc sydd ag anableddau yn rhan o ddigwyddiad 2022, ynghyd â’r cynlluniau i gynnwys elfen ryngwladol ar benwythnos yr ŵyl,” meddai Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd, ar drothwy’r lansiad.

“Mae ein partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru yn parhau i ffynnu wrth i ni weithio ar ddatblygu ac ehangu’r ddarpariaeth a’r profiad.”

Ychwanega Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, fod y bartneriaeth gyda’r Urdd yn un mae’r Undeb yn ei “thrysori”.

“Yr un yw ein nod, sef defnyddio rygbi i wneud gwahaniaeth i bob cymuned yng Nghymru – ac i fod yn gynhwysol o bob person ifanc yn y cymunedau rheiny,” meddai.

“Mae’r pandemig wedi effeithio pobol ifanc yn arbennig ac mae’n wych gweld eu hawydd i ddod at ei gilydd a chystadlu eto nawr fod hynny’n bosib.

“Edrychwn ymlaen at wahodd timau o wledydd eraill y Chwe Gwlad i fod yn rhan o Rygbi 7 Bob Ochr, ac rydym hefyd yn hynod falch o’r modd mae’r bartneriaeth yn ein helpu i adeiladu arweinwyr drwy ein rhaglenni prentisiaeth.”

‘Diolch diffuant i’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru am eu gwaith caled’

Bydd y cyn-ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens, ac Elinor Snowsill, capten tîm rygbi merched Cymru, yn y lansiad.

Fel mae’n digwydd, fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn ystod Chwe Gwlad y Merched eleni, ac mae’r trefnwyr yn dymuno gweld merched ifainc yn cael eu hysbrydoli gan hynny i gymryd rhan.

Hefyd yn mynychu’r lansiad mae Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru am barhau i weithio mewn partneriaeth gyda dros 100 o ysgolion er mwyn cynnal digwyddiad sy’n cynnwys miloedd o blant ar hyd a lled y wlad,” meddai.

“Yn ogystal â chynnig elfen ryngwladol, rwy hefyd yn falch iawn o glywed y bydd gŵyl rygbi i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau yn dychwelyd unwaith eto eleni – mae rygbi, yn ei amrywiol ffurf, yn gamp i bawb.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu’n ariannol tuag at y digwyddiad cynhwysol hwn sy’n rhoi cyfle a llwyfan i bobl ifanc i fynegi eu doniau a’u galluoedd.

“Dymunaf bob lwc i bawb sy’n rhan o’r digwyddiad ac unwaith eto, diolch diffuant i’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru am eu gwaith caled wrth drefnu’r digwyddiad.”