Roedd y pêl-droediwr Emiliano Sala yn teimlo dan bwysau i symud i Uwch Gynghrair Lloegr ychydig cyn iddo farw mewn damwain awyren wrth deithio i’w glwb newydd yng Nghaerdydd, meddai ei fam.

Roedd yr ymosodwr, a gafodd ei eni yn yr Ariannin, wrthi’n ymuno â Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd mewn cytundeb gwerth £15m o’r tîm Nantes yn Llydaw sy’n yn chwarae yn Ligue 1 yn Ffrainc.

Clywodd Llys Crwner Dorset fod y pêl-droediwr 28 oed ar awyren breifat yn hedfan o Nantes i Gaerdydd ar Ionawr 21, 2019, pan wnaeth yr awyren lanio yn y Sianel ger Ynys y Garn (Guernsey).

Cafodd David Ibbotson, y peilot 59 oed, ei ladd hefyd ond ni chafwyd hyd i’w gorff.

Ar ddiwrnod cyntaf y cwest i farwolaeth Emiliano Sala, dywedodd ei fam Mercedes Taffarel wrth y llys fod ei mab wedi breuddwydio am fod yn bêl-droediwr proffesiynol er pan oedd e’n blentyn.

‘Lot o bwysau’

Mewn datganiad, dywedodd Mercedes Taffarel, gan gyfeirio at ei mab fel Emi, fod ei waith yn sgorio goliau yng nghynghrair Ffrainc wedi arwain at alwad i chwarae i dîm cenedlaethol yr Ariannin.

“Roedd e’n gwerthfawrogi clwb Nantes a’u cefnogwyr yn fawr iawn,” meddai.

“Daeth cynnig gan Ddinas Caerdydd ym mis Rhagfyr 2018.

“Mae’n wir dweud bod Emi’n hapus iawn pan wnaeth e dderbyn y syniad o symud gan fod ganddo siawns o chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr.

“Roedd e’n teimlo bod yr amser yn iawn i symud clybiau a symud i gynghrair arall.

“Roedd hi’n ymddangos iddo fe fod y rheolwyr yn Nantes yn ei wthio i adael y clwb oherwydd eu bod nhw’n mynd drwy rai problemau ariannol.

“Trosglwyddiad Emi oedd yr un drytaf yn hanes y clwb ac fe wnaeth hynny helpu i wthio’r trosglwyddiad, er nad oedd hyfforddwr y tîm am ei weld yn gadael y clwb.

“Roedd yr wythnosau hynny o fis Rhagfyr 2018 i fis Ionawr 2019 yn teimlo’n ddwys iawn.

“Fe wnaeth Caerdydd roi lot o bwysau arno i gwblhau’r gwerthiant yn sydyn, ond fe wnaeth Nantes ofyn am fwy o arian ac roedd Emi’n teimlo ei fod yng nghanol y ddadl.

“Roedd gan Emi beth amheuaeth ynghylch bwrw ymlaen â’r trosglwyddiad. Yn y diwedd, cytunwyd ar y gwerthiant, nid oherwydd ei berfformiadau fel chwaraewr yn Nantes, er bod y rheiny’n dda, ond oherwydd bod Nantes angen yr arian.

“Yn groes i ddymuniadau’r staff hyfforddi a’r cefnogwyr, cafodd Emi ei werthu i Gaerdydd, ac roedd e’n teimlo bod ei fod yn llwyddo gyda’i freuddwyd.

“Ar ôl blynyddoedd o ymdrechu, roedd e wedi llwyddo i gyrraedd un o gynghreiriau pwysicaf yn y byd, cynghrair yr oedd e wastad wedi bod eisiau chwarae ynddi.”

‘Poen yn parhau’

Dywedodd Mercedes Taffarel ei bod hi’n siarad â’i mab yn rheolaidd, a phan na chlywodd ganddo ar y diwrnod pan hedfanodd o Nantes, cymerodd ei fod wedi mynd i’w wely’n gynnar ar ôl cyrraedd Cymru.

Y diwrnod wedyn, daeth i wybod fod yr awyren oedd yn cario’i mab ar goll. Trefnodd ei theulu bod timau yn chwilio am yr awyren, a daethpwyd o hyd i’r awyren gyda chorff Sala tu mewn iddi.

“Roedden ni wedi gobeithio, ac fe wnaeth e i gyd orffen mewn poen, ac mae’r boen yn parhau hyd heddiw,” meddai.

“Roedd Emi yn ifanc iawn, roedd ganddo ei fywyd i gyd o’i flaen gyda chynlluniau am y dyfodol, roedd e eisiau parhau i ddysgu am bêl-droed mewn cynghrair mor bwysig ag Uwch Gynghrair Lloegr.

“Fe wnaeth ein bywydau ni newid am byth ar 21 Ionawr 2019, a does yna’r un ohonom ni’r un fath nawr.

“Ni all neb ddod ag Emi yn ôl i ni, ond rydyn ni’n gofyn am gyfiawnder fel bod Emi yn gallu gorffwys mewn heddwch a’i fod yn gallu rhoi ychydig o dawelwch meddwl i ni o wybod ein bod ni wedi gwneud popeth posib i atal marwolaethau tebyg yn y dyfodol.

“Ni fydd ein poen fyth yn gadael ac rydyn ni’n ei gario efo ni trwy’r amser. Yr oll rydyn ni’n gofyn amdano yw cyfiawnder, ac rydyn ni eisiau ymchwilio pob trywydd er mwyn gwybod beth ddigwyddodd.”

Dywedodd Rachael Griffin, uwch-Grwner Dorset, wrth y rheithgor yn y cwest fod gan yr awyren Piper Malibu a adawodd faes awyr Nantes am 7:15yh ar 21 Ionawr am Gaerdydd, gysylltiad radar ond fod hwnnw wedi’i golli ger Ynys y Garn am 8:15yh.

Daethpwyd o hyd i’r awyren ar Chwefror 3 ar wely’r môr, meddai, a chafwyd hyd i gorff Sala yn y difrod dridiau wedyn.

Bydd y cwest yn clywed ystod o dystiolaethau gan dystion, ond bydd y prif gwestiynau’n ymwneud â’r trefniadau ar gyfer y daith, cyflwr yr awyren, ac achos y ddamwain.

Mae disgwyl i’r cwest, sy’n cael ei gynnal yn Neuadd y Dref Bournemouth, bara tua phum wythnos.

Emiliano Sala: trefnydd hediad yn pledio’n euog i gyhuddiad

Fe blediodd David Henderson, 66 oed o Swydd Efrog, yn euog i gyhuddiad o geisio rhyddhau teithiwr heb ganiatâd nac awdurdod