Mae canolwr Caerdydd a Chymru, Uilisi Halaholo ymhlith y chwaraewyr mae Cymru wedi eu rhyddhau i chwarae i’w rhanbarthau’r penwythnos hwn.
Bydd y gêm yn rhoi cyfle iddo brofi ei ffitrwydd cyn i’r Chwe Gwlad ailddechrau.
Mae Halaholo wedi bod yn dioddef â straen llinyn y gar ac nid yw wedi bod yn rhan o ddwy gêm agoriadol Cymru yn y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon a’r Alban.
Mae’r blaenwyr Rhys Carre a James Ratti hefyd ar gael ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn Zebre ddydd Gwener (18 Ionawr).
Bydd Gareth Anscombe ar gael i’r Gweilch ar gyfer y daith i Leinster ddydd Sadwrn (19 Ionawr), tra bod Kieran Hardy yn dychwelyd i’r Scarlets ar gyfer eu gêm yn erbyn Connacht.
Fe fyddan nhw’n ailymuno â charfan Cymru ar ôl gemau eu rhanbarthau.