Bydd Gareth Bale yn gadael Real Madrid ar ddiwedd y tymor, medd rheolwr y clwb Carlo Ancelotti.

Fe wnaeth Bale, 32, ei ymddangosiad cyntaf mewn chwe mis mewn gêm gyfartal yn erbyn Villarreal ddydd Sadwrn (12 Chwefror).

Mae cytundeb yr asgellwr yn dod i ben yn yr haf, ac mae Ancelotti wedi ei annog i orffen ei amser gyda’r clwb drwy ennill tlws arall.

“Mae Bale wedi helpu’r clwb yma i ennill… a byddai gorffen ei amser yma gyda thlws arall yn dda ar gyfer ei yrfa,” meddai Ancelotti.

“Mae gen i berthynas dda gydag ef a gweddill y chwaraewyr.

“Mae perthnasoedd personol yn gryf pan mae pawb yn dangos parch ac mae bob amser wedi gwneud hynny.

“Nid yw erioed wedi fy siomi yn hynny o beth.”

Ymunodd Bale â Los Blancos ym mis Medi 2013 am ffi o dros £80 miliwn, oedd yn record byd ar y pryd.

Yn ei wyth mlynedd a hanner ym Madrid, mae Bale wedi helpu’r clwb i ennill dau deitl La Liga, pedair Cynghrair y Pencampwyr a phedair Copa del Rey.

Mae ef hefyd wedi sgorio 106 o goliau i’r clwb.