Gallai’r Super Bowl, uchafbwynt y tymor pêl-droed Americanaidd, fod wedi gallu mynd y naill ffordd neu’r llall, yn ôl yr hanesydd chwaraeon Meilyr Emrys, sy’n dweud mai’r “pethau bach” arweiniodd at fuddugoliaeth y Los Angeles Rams o 23-20 dros y Cinncinati Bengals yng Nghaliffornia.
Cyfunodd y chwarterwr Matthew Stafford a’r derbynnydd llydan Cooper Kupp yn y symudiad tyngedfennol ar ddiwedd Super Bowl LVI ar ôl tri chwarter agos dros ben.
Roedd y Rams ar ei hôl hi o 20-16 hanner ffordd drwy’r chwarter olaf ac erbyn hynny, roedden nhw heb un o’u sêr, Odell Beckham Jr, oedd wedi gadael y maes ag anaf i’w goes, ond fe roddodd hynny gyfle i Kupp gamu i’r adwy a chael ei enwi’n Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr y gêm.
Gyda munud a 25 eiliad yn weddill o’r ornest, roedd y Bengals yn dal ynddi, ac fe wnaeth eu chwarterwr Joe Burrow ganfod Ja’Marr Chase yn llydan, ond arhosodd Aaron Donald a gweddill amddiffyn y Rams yn gadarn gan droi’r bêl drosodd i gipio’r fuddugoliaeth o driphwynt.
Y manylion yn llawn
Odell Beckham Jr ddechreuodd y sgorio hanner ffordd drwy’r chwarter cyntaf i roi’r Rams ar y blaen, a doedd ymosod y Bengals ddim yn edrych yn agos at fod yn ddigon da, gan lwyddo gyda chic gôl maes yn unig.
Fe wnaeth y Rams ymestyn eu mantais ar ddechrau’r ail chwarter, wrth i Kupp groesi am y tro cyntaf, cyn i’r Bengals daro’n ôl a chroesi yn y nawfed munud wrth i Tee Higgins dderbyn y bêl gan y cefnwr Joe Mixon.
Bryd hynny y bu’n rhaid i Odell Beckham Junior adael y maes ag anaf i’w goes oddi ar y bêl, a daeth cyfle i Stafford groesi cyn diwedd y chwarter.
Dechreuodd y Bengals y trydydd chwarter yn gadarn wrth i Higgins groesi eto i roi ei dîm ar y blaen am y tro cyntaf.
Taflodd chwarterwr y Rams ryng-gipiad arall i ildio gôl maes fel bod Cincinnati ar y blaen o saith pwynt.
Ond caeodd y Rams y bwlch gyda gôl maes, gyda’r sgôr tyngedfennol yn dod tua’r diwedd i selio’r fuddugoliaeth.
Chwarterwr a’r derbynnydd llydan
Un o’r prif bynciau trafod ym mhob Super Bowl yw’r berthynas a’r cyfuno rhwng y chwarterwr (quarter-back) a’r derbynnydd llydan (wide receiver).
Ond sut yn union mae disgrifio’r safleoedd hynny i wylwyr sy’n llai cyfarwydd â phêl-droed Americanaidd?
“Mewn ffordd, fedri di ei gymharu fo efo rygbi,” meddai Meilyr Emrys.
“Mae’n siwr mai dyna ydi’r gymhariaeth fwya’ hawdd i’w gwneud.
“Os oes gen ti faswr ac asgellwr da, a maswr sy’n rhedeg y gêm ac asgellwr sy’n gallu gorffen symudiadau, rhywbeth tebyg iawn ydi o mewn pêl-droed Americanaidd. Ond efo pêl-droed Americanaidd, mae’r cysylltiad rhwng y chwarterwr a’r derbynnydd llydan yn lot mwy uniongyrchol.
“Roedd o’n ddiddorol yn ystod y drive ddiwetha’ yna fod Stafford wedi mynd at Kupp bump gwaith dro ar ôl tro ac mae’n amlwg fod o’n ei weld o, yn enwedig mewn sefyllfa fel yna, fod o’n ymddiried yn Kupp i allu dal y bêl a gwneud beth oedd angen ei wneud.
“Y bartneriaeth yna weithiodd yn y pen draw, Stafford yn creu a Kupp yn ffeindio lle i ddal y bêl a chael y touchdown.”
Pa safleoedd eraill?
Ar wahân i’r safleoedd allweddol hynny, pwy arall sydd gan y Rams, tybed?
“Yn amlwg, o ran Odell Beckham Jr (derbynnydd llydan), mae o ers ymuno efo nhw wedi cael ail fywyd ac mae o’n bendant yn un o’u prif sêr nhw,” meddai.
“Ond eto, hyd yn oed ar ôl ei golli fo, mi oedd sêr eraill, Stafford a Kupp ond hefyd rhywun fel Aaron Donald (taclwr amddiffynnol) a Jalen Ramsey (cefnwr cornel) yn amddiffynnol yn gwneud gwahaniaeth mawr.”
Sut, felly, mae digwyddiadau bach yn gallu cael effaith ar y gêm a’r canlyniad?
“Roedd o’n ymddangos bod y pethau bach yn mynd ffordd y Rams,” meddai wedyn.
“Yn ystod y chwarter cyntaf yna, mi benderfynodd Cincinnati fynd amdani gyda’r 4+1 ond mi ddaeth y Rams allan a manteisio ar y safle oedd gynnon nhw ar y cae a sgorio’r touchdown.
“Ar y pwynt yna, roedd hi’n 13-3 ac roedd rhywun yn meddwl, yn enwedig efo’r Rams yn dîm cartref, os fysa’r Rams yn sgorio eto allai hi fod yn dalcen caled iawn i Cincinnati.
“Ac wedyn mi ddigwyddodd [anaf] Odell Beckham Jr, un o’r sêr eraill ac wedyn yn sydyn iawn, mi gafodd y Bengals y touchdown jyst cyn hanner amser ac un arall yn syth ar ôl yr hanner ac mi oedd hi’n ymddangos bod y rhod yn troi a bod pethau wirioneddol yn mynd ffordd y Bengals.
“Ar ôl iddyn nhw fynd ar y blaen, ar ôl y dechrau anhygoel yn yr ail hanner, mi fethodd y Bengals fanteisio wedyn, ac wedyn gawson ni’r pynt ar ôl pynt gan y ddau dîm achos bod eu hamddiffynfeydd nhw’n rheoli.
“Yn y pen draw, doedd ymosod y Bengals jyst ddim cweit digon da.
“Roedden nhw’n sôn am y chwarterwr ifanc Joe Burrow o’r Bengals fel seren. Yn amlwg, mae o’n dipyn o chwaraewr ond dwi’n siwr aiff o ymlaen i fod yn seren wirioneddol ond neithiwr, doedd yr ymosod ddim digon da i allu tynnu i ffwrdd a gwneud y gêm yn saff.”
A beth am yr ail hanner?
“Eto ar ddechrau’r ail hanner, yr un sbarc yna pan sgoriodd y Bengals ar y play cynta’ yn yr ail hanner, yn fan’no mi oedd yna drosedd eitha’ amlwg ar Jalen Ramsey gafodd ei methu gan y dyfarnwyr,” meddai wedyn.
“Dyna rywbeth mawr ddylai fod wedi mynd ffordd y Bengals.
“Efo seren fel Jalen Ramsey, dywedodd y sylwebydd “Ramsey fell over” a fel yna oedd y digwyddiad wedi cael ei weld. Pan wyt ti’n gweld yr ail-chwarae, mae’n hollol amlwg fod yna drosedd wedi bod arno fo!
“Dwi’n meddwl bod hynny’n dangos yn gyffredinol ’na’r amddiffynfeydd oedd yn rheoli, yn enwedig yn y trydydd chwarter.
“Yr unwaith wnaeth Cincinnati gael y touchdown reit ar ddechrau’r ail hanner, wnaeth o ddigwydd oherwydd camgymeriad gan y dyfarnwyr bo nhw wedi methu’r drosedd ar un o’r tîm amddiffynnol.”
Dadansoddiad: Meilyr Emrys
Roedd hi’n gêm agos a dwi’n meddwl fysa hi wedi gallu mynd y naill ffordd neu’r llall. Roedd nifer o ddigwyddiadau bach oedd yn ymddangos bo nhw’n mynd i newid y gêm.
Ond dwi’n meddwl ’na beth oedd y gwahaniaeth yn y pen draw oedd dau beth, a dweud y gwir. Ar ôl cael y ddau beth bach i fynd eu ffordd nhw, dwi ddim yn teimlo bod Cincinnati wedi manteisio’n ddigonol arnyn nhw – y rhan anhygoel yn yr ail hanner lle gaethon nhw’r touchdown, a wedyn y rhyng-gipiad yna o fewn 22 eiliad. Mae’n bosib fysa hi wedi bennu yn fan’na efo ail touchdown ond wnaethon nhw ddim.
A wedyn y gwahaniaeth yn y diwedd oedd y profiad yna sydd gen y Rams, sy’n cael eu gweld fel tîm o sêr, bron a bod, lle maen nhw’n adeiladu tîm o sêr a dyna welon ni yn y chwarter olaf, y sêr yn dangos eu gwerth.
Roedd profiad Matthew Stafford yn cysylltu dro ar ôl tro efo Cooper Kupp wnaeth arwain at y touchdown hollbwysig, ac wedyn Aaron Donald y taclwr yn gwneud yn union hynny yn rhoi ambell dacl bwysig ac yn sicrhau bod yna ddim ffordd yn ôl i Cincinnati.
Roedd hi’n od achos roedd yna ryw gyfnodau bach cyffrous i’r gêm, ond wedyn roedd gen ti’r cyfnodau hir lle’r oedd yr amddiffynfeydd yn rheoli’n llwyr.