Mae prentis o Gaerdydd yn dweud bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth wedi ei alluogi i gael “ffocws newydd”.
Dywed Nooh Omar Ibrahim ei fod am greu cymuned rygbi gynhwysol newydd yng Nghymru ar ôl syrthio mewn cariad â’r gêm yn ystod ei brentisiaeth.
Yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru yr wythnos ddiwethaf, roedd e’n annog pobol ifanc eraill sy’n meddwl am eu camau nesaf i fanteisio ar unrhyw gyfle sydd ar gael ac i ddilyn eu calon.
Mae Nooh Omar Ibrahim, sy’n hanu o Gaerdydd, wedi dwlu ar chwaraeon erioed, ond cafodd ei hun ar faes rygbi yn annisgwyl ar ôl cael trafferth i ymdopi yn y coleg.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Effaith y cyfnod clo
“Pan ro’n i’n meddwl am fy nghamau nesaf yn yr ysgol, cefais fy annog i fynd am swydd ym maes TG, busnes neu wyddoniaeth hyd yn oed, fel llawer o bobol eraill,” meddai.
“Ond pan es i ymlaen i astudio’r pynciau hyn i Safon Uwch, daeth y cyfnod clo, ac fe gafodd hyn effaith fawr arna i.
“Fe gollais i ddau aelod o’r teulu ar yr un pryd, ac ro’n i’n cael trafferth canolbwyntio yn y coleg.
“Ro’n i mewn penbleth braidd a ddim yn siŵr beth i’w wneud gyda fy mywyd; ro’n i angen ffocws newydd.
“Fe gymerais i flwyddyn i ffwrdd a wnaeth i mi gwestiynu beth ro’n i’n teimlo’n angerddol amdano.
“Dyna pryd y gwelais i gyfle gydag Undeb Rygbi Cymru fel Prentis Datblygu Rygbi.
“Do’n i erioed wedi chwarae rygbi a do’n i ddim yn gwybod dim am y gêm.
“Yn tyfu i fyny yn Nhre-biwt, ro’n i ond yn adnabod llond llaw o bobol a oedd yn deall unrhyw beth am rygbi. Ond dwi wrth fy modd yn cadw’n heini ac rwy’n egnïol iawn.
“Roedd ymgeisio am y cyfle y tu allan i’r hyn ro’n i’n gysurus yn ei wneud ond ro’n i’n barod am her newydd.”
‘Cyflawni unrhyw beth’
Ers dechrau ei brentisiaeth, mae Nooh Omar Ibrahim yn dweud y gall e “gyflawni unrhyw beth”.
“Mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi’r hyder i mi wybod beth dwi’n gallu ei gyflawni – ro’n i angen yr hwb hynny,” meddai.
“Os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn barod i ddysgu fe allwch chi gyflawni unrhyw beth.
“Edrychwch arna i, amser yma’r llynedd do’n i ddim yn gwybod beth oedd ‘ryc’, a nawr dwi’n hyfforddwr cymwysedig, yn ddyfarnwr, ac yn gweithio tuag at sefydlu tîm rygbi llawn yn Grangetown a Thre-biwt.
“I unrhyw berson ifanc sy’n meddwl am ei gamau nesaf, os oes unrhyw gyfle yn dod i’ch rhan, byddwch yn barod a manteisiwch arno.
“Mae fy mhrentisiaeth wedi fy helpu i droi fy mrwdfrydedd am chwaraeon yn yrfa ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd fy her nesaf.”
‘Uchelgeisiau mawr’
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau yn ddewis doeth, i gyflogwyr sy’n ceisio diogelu eu gweithluoedd at y dyfodol wrth feithrin talent sy’n bodoli yng Nghymru eisoes, ac i bobol sydd eisiau dilyn llwybr i gyflogaeth sy’n rhoi’r cyfle i ddysgu wrth ennill cyflog,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.
“Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn gyfle i ni gynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â phrentisiaethau yng Nghymru, a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i bobol ar hyn o bryd.
“Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hanfodol wrth i ni ddod allan o’r pandemig.
“Dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu 125,000 o leoedd Prentisiaeth ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf.
“Rydyn ni’n wlad fechan ond mae gyda ni uchelgeisiau mawr, a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle y bydd recriwtio prentis yn dod yn weithred arferol i gyflogwyr.”