Mae Antonio Conte, rheolwr tîm pêl-droed Spurs, yn cyfaddef iddo wneud camgymeriad wrth hepgor y Cymro Joe Rodon o ganol yr amddiffyn, ond dydy hi ddim yn debygol y bydd e’n cael ei ddewis tra bod chwaraewyr eraill yn perfformio’n dda.
Dydy Rodon ddim wedi bod yn y tîm ers rhai wythnosau, ac fe ddywedodd yr Eidalwr cyn y Nadolig ei fod e’n ffafrio Eric Dier fel y dyn canol o blith tri yn y cefn.
Ond gyda Dier allan am saith o’r wyth gêm diwethaf, dydy Rodon ddim wedi camu i’r bwlch.
“Rydyn ni’n sôn am foi da iawn,” meddai Conte ar ôl y golled o 2-0 dros Wolves dros y penwythnos.
“Rydyn ni’n sôn am berson y mae ei ymrwymiad yn sylweddol iawn bob dydd.
“Ond yn yr eiliad yma, efallai fy mod i’n gwneud camgymeriad wrth ddewis chwaraewyr gwahanol, efallai.
“Fy ngwerthusiad yw ceisio rhoi’r chwaraewyr gorau ar y cae yn yr eiliad.
“Pe na bawn i’n gwneud hyn, yna mae’n bosib y byddwn ni’n ystyried gwneud rhywbeth gwahanol.”