Gydag ychydig dros bum wythnos i fynd tan y gêm holl bwysig yn erbyn Awstria, mae’r dyfalu ynglŷn â phwy fydd yng ngharfan Rob Page yn cynyddu. Ni fydd Kieffer Moore ynddi ar ôl dioddef anaf yr wythnos hon ond dychwelodd ambell un i’r cae dros y penwythnos ac mae sawl un arall yn chwarae’n dda.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Cafodd Dan James gêm dda iawn ganol wythnos, yn sgorio dwywaith wrth i Leeds gael gêm gyfartal dair gôl yr un yn erbyn Aston Villa. Dechreuodd James fel blaenwr eto yn erbyn Everton ddydd Sadwrn ond ni chafodd yr un argraff wrth i’w dîm golli o dar gôl i ddim. Dechreuodd Tyler Roberts ar y fainc cyn dod i’r cae fel eilydd ar gyfer yr ail hanner.

Dan James

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Fin Stevens ar gyfer gêm Brentford yn erbyn Crystal Palace.

Chwaraeodd Connor Roberts wrth i Burnley golli o gôl i ddim yn erbyn Lerpwl ddydd Sul ond ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey.

Colli a fu hanes Ben Davies gyda Spurs hefyd wrth iddynt hwy groesawu Wolves. Dwy i ddim y sgôr a Joe Rodon yn gwylio o’r fainc unwaith eto.

Caerlŷr yn erbyn West Ham a oedd y gêm hwyr ddydd Sul, gyda Danny Ward yn dechrau ar y fainc.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Colli o ddwy gôl i un a fu hanes Caerdydd yn erbyn yr hen elyn, Millwall, ddydd Sadwrn. Dechreuodd Mark Harris i’r Adar Gleision cyn cael ei eilyddio gan Isaak Davies yn gynnar yn yr ail hanner. Roedd Davies yn anlwcus i beidio dechrau’r gêm ar ôl chwarae’n dda yn y fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Peterborough ganol wythnos. Ymddangosodd Will Vaulks oddi ar y fainc yn erbyn Millwall hefyd ond aros arni a wnaeth Rubin Colwill. Mae Tom Bradshaw yn parhau i fod allan o garfan Millwall gydag anaf.

Dydd Sul yr oedd gêm Abertawe wrth iddynt groesawu Bristol City i Stadiwm Swansea.com. Ac ar ôl mynd ar ei hôl hi yn yr hanner cyntaf, tarodd yr Elyrch yn ôl wedi’r egwyl i’w hennill hi o dair gôl i un gyda Ben Cabango yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn.

Arhosodd Fulham yn glir ar frig y tabl gyda buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Hull ddydd Sadwrn, Neco Williams yn creu’r gôl honno i bwy arall ond Aleksandar Mitrovic. Dechreuodd Harry Wilson hefyd wrth i’r ddau Gymro ffurfio partneriaeth dda ar y dde i’r tîm gorau yn y gynghrair.

Bournemouth sydd yn ail ar ôl curo Blackpool ddydd Sadwrn. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Mepham ond nid oedd Kieffer Moore yn y garfan ar ôl torri ei droed yn y fuddugoliaeth ganol wythnos yn erbyn Birmingham. Daeth y blaenwr i’r cae fel eilydd hwyr am ei ymddangosiad cyntaf dros ei glwb newydd ond bydd yn rhaid iddo aros yn hir am y nesaf ar ôl dioddef anaf drwg ac nid fydd ar gael i Gymru ym mis Mawrth ychwaith.

Arhosodd Huddersfield yn y safleoedd ail gyfle gyda gêm ddi sgôr yn erbyn Sheffield United. Chwaraeodd Sorba Thomas y gêm gyfan i’r Terriers ond nid oedd Rhys Norrington-Davies yng ngharfan y Blades yn dilyn rhediad da yn y tîm yn ddiweddar.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd George Thomas wrth i QPR golli yn erbyn Barnsley ond roedd Neil Taylor yn nhîm Middlesbrough wrth iddynt godi i’r chwech uchaf gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Derby.

Roedd Tom Lawrence yn nhîm Derby ar gyfer y gêm honno ond ni lwyddodd i ail adrodd ei gampau canol wythnos pan sgoriodd un a chreu un arall mewn buddugoliaeth dros Hull. Mae’r Cymro bellach wedi sgorio naw a chreu pump i’r tîm mewn trafferth a bydd yn rhaid i Rob Page ei ystyried fel opsiwn ar gyfer y garfan nesaf, yn enwedig nawr gan fod Moore allan.

Un arall sydd â’i dymor yn mynd o nerth i nerth yw Brennan Johnson. Sgoriodd yn erbyn Blackburn ganol wythnos ac eto ddydd Sadwrn wrth i Nottingham Forest gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Stoke, ei wythfed a’i nawfed gôl gynghrair o’r tymor. Roedd Joe Allen yn nhîm Stoke ond nid oedd Adam Davies, James Chester na Morgan Fox yn y garfan.

Brennan Johnson

Roedd buddugoliaeth i Andrew Hughes a Ched Evans gyda Preston yn Peterborough, Hughes yn chwarae’r gêm gyfan yn yr amddiffyn a gadwodd lechen lân ac Evans yn chwarae’r hanner awr olaf fel eilydd. Ar y fainc yr oedd Dave Cornell i Peterborough.

Cafodd Tom Lockyer ei eilyddio cyn yr awr wrth i Luton gael cweir o dair i ddim yn erbyn Birmingham. Eilydd hwyr a oedd Jordan James i Birmingham.

 

*

 

Cynghreiriau is

Sgoriodd Liam Cullen ei gôl gyntaf dros Lincoln ers ymuno ar fenthyg o Abertawe wrth iddynt gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Wycombe. Chwaraeodd Regan Poole i’r Imps hefyd ac roedd Joe Jacobson a Sam Vokes yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Mae Billy Bodin ym mwynhau ei gyfnod gorau mewn crys Rhydychen a sgoriodd dwywaith yn erbyn Bolton ddydd Sadwrn. Nid oedd hynny’n ddigon serch hynny wrth i Bolton ennill y gêm o dair i ddwy. Cymro arall, Declan John, a sgoriodd y gyntaf o’r tair ac roedd Gethin Jones a Jordan Williams yn rhan o’r tîm buddugol hefyd.

Nid oedd gôl i Luke Jephcott wrth i Plymouth drechu’r Amwythig ond y Cymro a greodd unig gôl y gêm i Conor Grant. Roedd James Wilson yn y tîm hefyd ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Ryan Broom.

Adam Matthews a greodd gôl agoriadol Charlton yn eu gêm hwy yn erbyn Wigan ond colli o ddwy i un a fu eu hanes yn y diwedd. Nid oedd Chris Gunter yng ngharfan Charlton ond ymddangosodd Gwion Edwards fel eilydd hwyr i Wigan.

Roedd Joe Morrell wedi’i wahardd wrth i’w dîm Portsmouth ennill yn gyfforddus yn erbyn Doncaster. Roedd ei gyd-wladwr, Louis Thompson, yng nghanol cae serch hynny wrth iddynt ennill o bedair i ddim.

Chwaraeodd Owen Evans a Ben Williams eu rhan wrth i Cheltenham gadw llechen lân yn erbyn Fleetwood, Evans yn y gôl a Williams yn gefnwr chwith. Dwy i ddim y sgôr terfynol gydag Ellis Harrison yn nhîm Fleetwood.

Di sgôr a oedd hi rhwng Ipswich a Hull. Roedd Wes Burns yn nhîm Ipswich ond nid oedd Lee Evans yn y garfan. Nid oedd golwg o Matthew Smith i MK Dons ychwaith.

Parhau y mae rhediad ofnadwy Crewe. Maent bellach wedi colli pum gêm yn olynol gyda’r Cymro yn y gôl, Dave Richards, yn ildio deuddeg yn y broses. Pedair i un y golled ddiweddaraf yn erbyn Accrington.

Yn aros yng nghyffiniau Manceinion ond yn symud i’r Ail Adran, cafodd Salford fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Leyton Orient. Gôl Liam Shephard yn eu rhoi ar ben ffordd a llechen lân Tom King yn diogelu’r pwyntiau.

Nid oedd Jonny Williams yng ngharfan Swindon ond roedd ymddangosiad byr oddi ar y fainc i Emyr Huws wrth i Colchester gael gêm gyfartal yn erbyn Carlisle.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Beth am ‘O Milan i Annan’ fel teitl ar bennod yn hunangofiant Aaron Ramsey? Roedd hi’n benwythnos pumed rownd Cwpan yr Alban yr wythnos hon a golygodd hynny i Ramsey ddechrau gêm dros Rangers am y tro cyntaf yn erbyn tîm o’r bedwaredd haen, Annan Athletic. Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, buddugoliaeth gyfforddus a oedd hi gyda Rambo’n creu’r gyntaf o dair gôl ei dîm.

Sgoriodd Dylan Levitt yng ngêm gynghrair Dundee United yn erbyn Motherwell ganol wythnos ac roedd yn y tîm eto wrth iddynt gyrraedd wyth olaf y Cwpan gyda buddugoliaeth dros Partick Thistle ddydd Sadwrn, un i ddim y sgôr.

Un arall a helpodd ei dîm i’r rownd gogynderfynol a oedd a oedd Ben Woodburn. Ar ôl dod i’r cael fel eilydd ar gyfer ail hanner amser ychwanegol yn erbyn Livingston, fe sgoriodd un o’r ciciau o’r smotyn wrth i Hearts symud ymlaen yn y gystadleuaeth. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Morgan Boyes i Livi.

Mae Ryan Hedges a Marley Watkins yn parhau i fod allan o garfan Aberdeen gydag anafiadau ac fe fydd ganddynt reolwr newydd pan fyddant yn dychwelyd. Cafodd Stephen Glass y sac ar ôl i’w dîm golli o ddwy gôl i un yn erbyn Motherwell.

Eilydd hwyr a oedd Christian Doidge wrth i Hibs guro Arbroath o dair gôl i un ddydd Sul.

Gêm gynghrair a oedd gan Dunfermline yn y Bencampwriaeth ond ar y fainc yr oedd Owain Fôn Williams wth iddynt golli yn erbyn Kilmarnock.

Gwelwyd golygfa brin yn Villarreal nos Sadwrn ac un i’w chroesawu gan gefnogwyr Cymru, Gareth Bale yn dechrau gêm i Real Madrid am y tro cyntaf ers mis Awst. Cafodd gêm go lew hefyd a dim ond tri arbediad da gan Geronimo Rulli a wnaeth ei atal rhag sgorio wrth iddi orffen yn ddi sgôr.

Cododd Venezia allan o safleoedd y cwymp yn Serie A gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn Torino. Chwaraeodd Ethan Ampadu y gêm gyfan fel cefnwr de.

Yng Ngwald Belg, fe agorodd Rabbi Matondo y sgorio i Cercle Brugge oddi cartref yn Leuven ond yn anffodus i’r Cymro a’i dîm, yn ôl y daeth y tîm cartref i’w hennill hi o dair gôl i ddwy.

Dychwelodd St. Pauli i frig tabl y 2. Bundesliga gyda buddugoliaeth o dair gôl i ddwy yn erbyn Jahn Ragensburg dydd Sadwrn ond nid oedd James Lawrence yn y garfan.