Mae capten Cymru, Dan Biggar yn credu bod yr Albanwyr dan bwysau i berfformio yn y gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn yn Stadiwm Principality, gyda’r gic gyntaf am 2.15 y pnawn a’r arlwy yn fyw ar S4C.
Nid yw’r Alban wedi ennill yng Nghaerdydd ers 2002, gan golli wyth Prawf Chwe Gwlad, gêm gynhesu Cwpan y Byd a gêm ryngwladol yn yr hydref.
Ond maen nhw’n teithio i Gaerdydd yn ffefrynnau clir ar ôl curo Lloegr, tra bod Cymru wedi’u trechu gan Iwerddon yn Nulyn.
“Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n dod mewn cyflwr da ac yn hyderus, ond mae tipyn o bwysau arnyn nhw ac mae’n rhaid iddyn nhw geisio ennill y bencampwriaeth, o’r hyn rwy’n ei glywed,” meddai Biggar.
“Gadewch i ni weld sut maen nhw’n gwneud yn y twrnament, a’u barnu ar ei ddiwedd.
“Maen nhw’n cael eu hyfforddi’n dda ac mae ganddyn nhw chwaraewyr sydd gydag X-factor.
“Bydd yn ddiddorol gweld sut maen nhw’n chwarae oherwydd rydyn ni’n gwybod y byddan nhw eisiau dod i daflu’r bêl a cheisio sgorio ceisiau.
“Rydym yn amlwg yn chwilio am ymateb, felly rydym yn gobeithio ceisio rhwystro’r momentwm a’r hyder hwnnw y maent wedi’i fagu.
“Mae eu tîm yn edrych yn gryf ar bapur, ac mae ganddyn nhw unigolion sy’n gallu achosi problemau i unrhyw dîm rygbi rhyngwladol.”