Mae prif hyfforddwr Dan 20 Cymru, Byron Hayward, yn dweud bod yn rhaid i’r bechgyn roi canlyniad gêm agoriadol y Chwe Gwlad “y tu ôl i ni” wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Alban heno (nos Wener, 11 Chwefror) ar Barc Eirias.

Bydd y gic gyntaf am wyth o’r gloch ac mae’r ornest yn fyw ar S4C.

Collodd Cymru o 53-5 yn eu gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon.

Mae Hayward wedi gwneud wyth newid i’r tîm gafodd eu curo gan Iwerddon ar gyfer eu hail gêm yn y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban.

Bydd Jac Lloyd ac Archie Hughes yn ffurfio partneriaeth naw a 10 newydd yn lle Dan Edwards a Harri Williams, tra bod y propiau Rhys Barratt ac Adam Williams yn cymryd lle Joe Cowell a Nathan Evans

Mae Benji Williams a Ryan Woodman wedi cael eu dewis i ddechrau yn yr ail reng, ac mae’r Capten Alex Mann yn symud o fod yn flaenasgellwr i rif wyth.

Daw Tom Cowan o Gaerfaddon i mewn yn flaenasgellwr, tra bod Joe Hawkins, a wnaeth argraff yn dod oddi ar y fainc yn erbyn Iwerddon, yn dechrau fel canolwr.

“Os ydych chi’n mynd oddi ar yr un gêm yna mae’n edrych fel nad yw rygbi Cymru mewn lle da,” meddai Hayward yn cyfeirio at y golled yn Iwerddon y penwythnos diwethaf.

“Ond dim ond un gêm ydyw, mae’n rhaid i ni ddysgu ohoni, ei rhoi y tu ôl i ni ac edrych ymlaen at y penwythnos.

“Byddwn yn ôl ar y trywydd iawn os cawn fuddugoliaeth dda nos Wener.

“Mae’r Alban yn dîm gwych ac roedden nhw’n gorfforol iawn yn erbyn Lloegr, ac mae hynny’n rhywbeth doedden ni ddim yn erbyn Iwerddon.”