Mae Laura Deas yn dweud nad yw hi’n gallu egluro pam nad oedd hi’n ddigon cyflym yn y sgerbwd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf dros nos (dydd Gwener, Chwefror 11).

Mae’r Gymraes o Wrecsam yn 21ain yn y gystadleuaeth ar ôl dau gynnig, ac mae ei gobeithion hi o ennill medal ar ben.

Dyma fydd y tro cyntaf ers ugain mlynedd i ferched Prydain fynd adre’n waglaw o’r sgerbwd, yn dilyn dechrau siomedig i Brogan Crowley hefyd, a hithau’n ail ar hugain y tu ôl i Deas.

Bydd y gystadleuaeth yn dirwyn i ben fory (dydd Sadwrn, Chwefror 12), a dim ond De Corea, Puerto Rico ac Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau sy’n is na Phrydain ar hyn o bryd.

Roedd perfformiad Deas yn dra gwahanol i’r hyn oedd e bedair blynedd yn ôl, pan enillodd hi fedal efydd annisgwyl y tu ôl i Lizzy Yarnold, a hynny er ei bod hi’n hyderus â’i chyfarpar newydd.

Ond gorffennodd hi 1.80 eiliad y tu ôl i Jaclyn Narracott o Awstralia, sydd ar y brig, gyda Crowley 0.41 eiliad ymhellach ar ei hôl hi yn ei Gemau cyntaf.

“Yn sicr, nid dyma’r canlyniad roeddwn i eisiau,” meddai Laura Deas.

“Dw i’n meddwl fy mod i wedi llithro’n dda iawn heddiw.

“Des i’r bloc cychwyn efo meddylfryd da.

“Mi wnes i roi dau rediad da at ei gilydd dw i’n meddwl fedra i fod yn falch ohonyn nhw.

“Fedra i ddim dweud wrthych chi rŵan pam nad oedd y cyflymdra yno. Wn i ddim.

“Dw i’n meddwl fedra i fod yn falch ohonof fi fy hun.

“Dw i wedi gweithio’n andros o galed dros y pedair blynedd diwethaf i gyrraedd y bloc cychwyn heddiw, ac mae’n teimlo fel pe bawn i wedi gwneud yn union beth oeddwn i eisiau ei wneud.”