Mae Clwb Pêl-droed Cei Conna wedi cyhoeddi eu bod nhw’n “anghytuno â phob cyhuddiad” sydd wedi’u dwyn yn eu herbyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ddoe (dydd Mercher, Chwefror 9), dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod pencampwyr y gynghrair yn 2019-20 a 2020-21 wedi torri dwy reol sy’n ymwneud â chyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Neal Eardley, a chanolwr Portiwgal, Paulo Mendes.

Yn ôl rheolau’r Gymdeithas, dim ond rhwng diwedd cyfnod trosglwyddo mis Awst a dechrau cyfnod mis Ionawr y gall prif glybiau Cymru ddenu chwaraewr am ddim, neu fel free agent.

Mae honiadau eu bod nhw wedi torri’r rheol drwy ddenu Eardley ym mis Hydref, ar ôl denu Mendes y tu allan i’r ffenestr drosglwyddo ar Fedi 2.

Ond mae Cei Conna yn mynnu bod y cytundeb i ddenu Mendes wedi’i gwblhau ar Awst 31, y tu mewn i’r cyfnod a ganiateir ar gyfer dod â chwaraewyr i mewn.

Ar ben hynny mae rheol 14.1 yn rhwystro clybiau rhag cynnwys chwaraewr anghymwys mewn unrhyw gêm.

Gall unrhyw glwb sy’n torri’r ail reol wynebu colli triphwynt a chael dirwy sylweddol, fel y digwyddodd i glwb Caerfyrddin yn 2019.

Ond gallai Cei Conna dderbyn gostyngiad o 18 pwynt, fyddai’n golygu eu bod mewn perygl o’r gwymp.

Mae’r pencampwyr presennol yn chweched ar hyn o bryd, ac o fewn safleoedd y gemau ail-gyfle wrth i’r gynghrair dorri yn ei hanner o fewn ychydig wythnosau.

Fodd bynnag, dim ond 10 pwynt yn uwch na safleoedd y gwymp mae’r clwb, felly gallai colli 18 pwynt fod â goblygiadau difrifol.

‘Anghytuno â phob cyhuddiad’

“I fod 100% yn glir – rydym yn anghytuno â phob cyhuddiad,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Fel pencampwyr presennol y Cymru Premier, mae Nomadiaid Cei Conna bob amser wedi ceisio helpu i wella safonau Pêl-droed Cymru, a ddangoswyd gan nifer o flynyddoedd yn olynol y clwb fel deiliaid Trwydded Haen 1 ac UEFA a’n gwaith academi lwyddiannus.

“Rydym yn synnu braidd fod y cyhuddiad disgyblu, sy’n cael ei wadu gan y Clwb, wedi’i ryddhau i’r cyhoedd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru – efallai bod hyn yn gosod cynsail ac yn caniatáu i bob clwb a gaiff eu cyhuddo yn y dyfodol i wneud sylwadau ar y cyhuddiadau hynny heb gael dirwy gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru?

“Mae’r cyhuddiadau hyn, a dderbyniwyd ddoe, wedi’u diwygio o’r rhai a dderbyniwyd yn flaenorol yn gynharach ym mis Rhagfyr gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Bydd ein cyfreithwyr yn adolygu’r rhain ac yn ymateb yn unol â hynny o fewn y saith diwrnod nesaf.”

Clwb pêl-droed Cei Conna wedi’u cyhuddo o dorri rheolau’r gynghrair

Y Nomadiaid wedi eu cyhuddo o dorri dwy reol sy’n ymwneud â dewis chwaraewyr anghymwys