Mae Clwb Pêl-droed Cei Conna wedi cael eu cyhuddo o dorri rheolau cynghrair y Cymru Premier a’n wynebu colli pwyntiau a chosb ariannol.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod pencampwyr y gynghrair yn 2019-20 a 2020-21 wedi torri dwy reol sy’n ymwneud â cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru Neal Eardley a chanolwr Portiwgal, Paulo Mendes.

Dim ond rhwng diwedd cyfnod trosglwyddo mis Awst a dechrau cyfnod mis Ionawr y gall prif glybiau Cymru lofnodi chwaraewr am ddim, neu free agent.

Honnir eu bod wedi torri’r rheol drwy lofnodi Eardley ym mis Hydref, ar ôl llofnodi Mendes y tu allan i’r ffenestr drosglwyddo ar 2 Medi.

Ond mae Cei Conna yn mynnu bod y gytundeb i arwyddo Mendes wedi’i gwblhau ar 31 Awst, y tu mewn i’r cyfnod a ganiateir ar gyfer dod â chwaraewyr i mewn.

Ar ben hynny mae rheol 14.1 yn rhwystro clybiau rhag cynnwys chwaraewr anghymwys mewn unrhyw gêm.

Gall unrhyw glwb sy’n torri’r ail reol hwnnw wynebu colli triphwynt a dirwy sylweddol, fel y digwyddodd i Glwb Caerfyrddin yn 2019.

Ond gallai Cei Conna dderbyn gostyngiad o 18 pwynt, fyddai’n golygu ei bod mewn perygl o’r gwymp.

Mae’r pencampwyr presennol yn eistedd yn chweched ar hyn o bryd, ac o fewn safleoedd y gemau ail-gyfle wrth i’r gynghrair dorri’n ei hanner o fewn ychydig wythnosau.

Fodd bynnag, dim ond 10 pwynt yn uwch na safleoedd y gwymp mae’r clwb, fell gallai colli 18 pwynt fod â goblygiadau difrifol.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd y gosb yr un fath i’r Nomadiaid, ond yn ôl y Gymdeithas, mae’r “mater wedi ei gyfeirio’n uniongyrchol” i feirniaid annibynnol, a bydd dyddiad y gwrandawiad yn cael ei gadarnhau “maes o law.”