Bydd y blaenasgellwr Jac Morgan yn ennill ei gap cyntaf dros dîm rygbi Cymru, wrth iddyn nhw herio’r Alban yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Chwefror 12, 2.15yp).

Hon fydd gêm gartref gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth eleni, ac fe fyddan nhw’n awyddus i daro’n ôl ar ôl colli o 29-7 yn erbyn Iwerddon yn Nulyn yng ngêm agoriadol y twrnament.

Bydd Morgan yn ymuno â Taine Basham, a sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf yn Nulyn, a Ross Moriarty, sy’n dechrau’r gêm ar ôl dod oddi ar y fainc yn erbyn y Gwyddelod i ennill ei hanner canfed cap.

Daw’r canolwr Owen Watkin i mewn i’r canol, ac yntau heb chwarae ers iddo fe herio’r Alban yn y bencampwriaeth y llynedd, ac fe fydd yn bartner i Nick Tompkins, gyda Josh Adams allan ag anaf i’w goes.

Alex Cuthbert fydd yn dechrau ar yr asgell ar gyfer ei gêm Chwe Gwlad gyntaf ers 2017, ac fe fydd e’n cadw cwmni i Louis Rees-Zammit ar yr asgell arall a Liam Williams yn y cefn.

Bydd Dan Biggar yn ennill ei ganfed cap mewn gemau rhyngwladol, a chap rhif 96 dros Gymru, a gallai Jonathan Davies gyflawni’r un gamp (93 dros Gymru) pe bai’n dod oddi ar y fainc.

Yn cadw cwmni i’r capten Biggar ymhlith yr haneri fydd y mewnwr Tomos Williams.

Does dim newid yn y pump blaen, ond mae’r clo Seb Davies wedi’i gynnwys ymhlith yr eilyddion ar ôl tynnu’n ôl yn Nulyn ag anaf.

“Gyda Ross Moriarty bellach wedi ymarfer mwy ac wedi cael mwy o amser mewn gêm, rydyn ni’n credu mai fe yw’r boi cywir i ddechrau,” meddai’r prif hyfforddwr Wayne Pivac.

“Daw Jac Morgan i mewn ar gyfer ei gêm gyntaf. Mae e’n rywun sydd wir wedi creu argraff arnom ni wrth ymarfer.

“Mae e wedi gweithio’n galed iawn, mae e’n rhoi elfen gorfforol iawn i ni ac mae e’n dda iawn dros y bêl.

“Rydyn ni’n disgwyl i’r Alban ddod i lawr yn llawn hyder. Maen nhw wedi dechrau gyda buddugoliaeth dda.

“Ar y cyfan, maen nhw’n dîm cystadleuol ac ymroddedig iawn sy’n taflu popeth at bob elfen o’r chwarae.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd yn waith caled i ni ac yn her fawr rydyn ni’n edrych ymlaen ati ac yn barod ar ei chyfer.

“[Rydyn ni] wedi cyffroi’n fawr i fynd allan o flaen torf lawn yn Stadiwm Principality ar gyfer ein gêm gartref gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2022. Does dim byd gwell.”

Llongyfarchiadau

Mae Wayne Pivac hefyd wedi llongyfarch Dan Biggar a Jonathan Davies ar gyrraedd y garreg filltir o 100 o gapiau rhyngwladol.

“Mae cyrraedd cant o gemau prawf i unrhyw chwaraewr o unrhyw wlad yn gamp aruthrol,” meddai.

“Mae’n dangos y gwaith caled a’r ymroddiad maen nhw wedi’i wneud a’r aberth maen nhw wedi’i gwneud dros nifer o flynyddoedd i gyrraedd y cam hwn.

“Dw i’n hapus iawn, iawn dros y ddau chwaraewr eu bod nhw wedi cyflawni hynny, a’u bod nhw’n ei wneud e ar yr un diwrnod.

“Maen nhw wedi chwarae llawer o gemau prawf gyda’i gilydd yn y gorffennol – bydd hi’n wych eu gweld nhw allan yno ar ryw adeg.”

Tîm Cymru

15. Liam Williams, 14. Alex Cuthbert, 13. Owen Watkin, 12. Nick Tompkins, 11. Louis Rees-Zammit, 10. Dan Biggar (capten), 9. Tomos Williams; 1. Wyn Jones, 2. Ryan Elias, 3. Tomas Francis, 4. Will Rowlands, 5. Adam Beard, 6. Taine Basham, 7. Jac Morgan, 8. Ross Moriarty

Eilyddion

16. Dewi Lake, 17. Gareth Thomas, 18. Dillon Lewis, 19. Seb Davies, 20. Aaron Wainwright, 21. Gareth Davies, 22. Callum Sheedy, 23. Jonathan Davies