Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan bêl-droed merched Cymru ar gyfer Cwpan Pinatar.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ymhen wythnos (dydd Mercher, Chwefror 16) gyda gêm yn erbyn yr Alban.

Byddan nhw wedyn yn herio naill ai Gwlad Belg neu Slofacia yn eu hail gêm dridiau’n ddiweddarach (dydd Sadwrn, Chwefror 19).

Dydyn nhw ddim yn gwybod eto pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y drydedd gêm ar ddydd Mawrth, Chwefror 22 – un ai Rwsia, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Iwerddon neu Hwngari.

Y garfan

Mae Gemma Grainger wedi enwi 26 o chwaraewyr wrth i Gymru gystadlu am y tro cyntaf.

Mae pob tîm yn sicr o chwarae tair gêm yn y gystadleuaeth.

Mae Sophie Ingle, Jess Fishlock a Tash Harding wedi’u cynnwys, tra bod Rachel Rowe yn dychwelyd ar ôl colli’r gemau yn yr hydref oherwydd anaf.

Mae sawl carreg filltir ar y gorwel hefyd, gyda Helen Ward ar 97 o gapiau a Laura O’Sullivan ar 49.

Laura O’Sullivan; Olivia Clark, Poppy Soper, Rhiannon Roberts, Esther Morgan, Hayley Ladd, Gemma Evans,Morgan Rogers, Rachel Rowe, Lily Woodham, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Josie Green, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Ffion Morgan, Megan Wynne, Elise Hughes, Kayleigh Green, Helen Ward, Natasha Harding, Ceri Holland, Chloe Williams, Georgia Walters.