Fe fydd Max Boyce yn cofio un o gewri tîm rygbi Cymru’r 1970au mewn rhaglen arbennig ar BBC 1 heno (nos Fercher, Chwefror 9, 9.30yh).

Bydd y canwr a diddanwr yn teithio i Drecelyn i gyfarfod â mab ac wyrion John Dawes, a fu farw ddeg mis yn ôl ac sy’n cael ei gofio fel capten y tîm cenedlaethol gorau yn hanes rygbi yng Nghymru.

Mae’r gyfres Legends of Welsh Sport yn olrhain rhai o’r sêr mwyaf yn hanes y campau yng Nghymru – o’r sêr annisgwyl a gafodd lwyddiant yn erbyn y ffactorau i’r bobol hynny oedd wedi gwyrdroi eu campau a’u cenedl.

Ar ôl ymuno â Chymry Llundain yn 1963, fe wnaeth John Dawes wyrdroi’r ffordd y câi rygbi agored ei chwarae ac roedd ei waddol yn amlwg am rai degawdau, nid lleiaf yn y 1970au pan oedd Cymru’n un o’r timau gorau yn y byd.

Mae’r cyn-ganolwr a ddaeth yn hyfforddwr yn cael ei gofio am ei weledigaeth a’i sgiliau wrth feithrin doniau’r genhedlaeth nesaf ar lefel y clybiau, gan sicrhau bod ei athroniaeth yn treiddio i dîm Cymru.

Yn 1971, John Dawes oedd capten Cymru wrth iddyn nhw ennill Pencampwriaeth y Pum Gwlad cyn mynd yn ei flaen i arwain y Llewod wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Seland Newydd – yr unig dro erioed i’r Llewod ennill cyfres yno.

Dychwelodd i Seland Newydd gyda’r Llewod yn 1977, ond y tro hwn fel hyfforddwr.

Y rhaglen

Bu farw John Dawes fis Ebrill y llynedd yn 80 oed.

Mae’r rhaglen yn gyfle i’w fab Mike a’i wyrion, Iwan a Rhodri, fynd i Old Deer Park yn Llundain, lle bu John Dawes yn chwarae ar gae Cymry Llundain yn ystod ei yrfa.

Yno, maen nhw’n cyfarfod â’i ffrind, y cyn-flaenasgellwr John Taylor ac yn cofio’r cymeriad a’i yrfa, a sut y bu iddo drawsnewid rygbi yng Nghymru.

Mae’r rhaglen yn cynnwys deunydd fideo o’i yrfa, yn ogystal â chyfweliadau newydd gyda dau o’i gyd-chwaraewyr yn nhîm Cymru a’r Llewod – Gerald Davies a Gareth Edwards – ac yn edrych ar ran John Dawes yn y cais gorau erioed, pan sgoriodd Gareth Edwards yn erbyn y Barbariaid yn 1973.

 

Llewod ’71: Alun Rhys Chivers

John Dawes
John Dawes (Llun: S4C)

Wrth geisio brwydro yn erbyn y ffactorau a sicrhau buddugoliaeth hanesyddol o 2-1 yn y gyfres yn erbyn Seland Newydd yn 1971, fe ddyfeisiodd y Llewod yr hyn rydyn ni’n ei adnabod heddiw fel rygbi 15 dyn. Byddai’n rhaid i’r Crysau Duon ddarganfod ffordd newydd o drechu eu gwrthwynebwyr o hynny ymlaen.

Chwilfrydedd y cynhyrchydd o Wyddel, Shane Tobin arweiniodd at greu’r rhaglen Llewod ’71 (S4C) ’nôl yn 2017. Cafodd y rhaglen ei chynllunio gydag un o gyfarwyddwyr mwyaf blaenllaw Iwerddon, y Cymro Andrew Gallimore, sydd wedi ennill gwobrau lu am ei waith yn y gorffennol. Canlyniad ei chwilfrydedd oedd rhaglen gyffrous oedd yn cynnwys deunydd fideo a chyfweliadau oedd heb eu gweld erioed o’r blaen. Yr actor Matthew Rhys oedd yn adrodd yr hanes, gyda sylwadau gan awduron a haneswyr chwaraeon blaenllaw.

Dw i’n dal i gofio’r alwad ffôn wrth gysylltu â John Dawes am y tro cynta’ i gael ei atgofion o’r daith hanesyddol honno 46 o flynyddoedd ynghynt. “I’m on a bus at the moment, I’ll call you back in an hour,” meddai yn ei lais ysgolheigaidd, bonheddig – a finnau’n gobeithio am y gorau!

Ond doedd dim achos i boeni o gwbl. Awr yn ddiweddarach, a dyma’r ffôn yn canu. “Hello? John Dawes here.” A dyna lle’r oedden ni am ryw hanner awr yn sgwrsio am Carwyn James a Barry John, JPR a Gareth Edwards, fel pe bai e’r peth mwya’ naturiol yn y byd.

“Roedd Carwyn yn ddyn deallus yn y byd rygbi,” meddai wrtha i. “Roedd e’n gwybod yn union beth roedd e am ei gael allan o’r Llewod ac roedd e’n gwybod yn union beth i’w ddisgwyl gan y Crysau Duon. Felly, aeth e allan a phlannu yn ein meddyliau y ffordd i’w trechu nhw a dyna wnaethon ni.”

Roedd e’n arbennig o awyddus i bwysleisio’i ddylanwad wrth ddyfeisio dull o chwarae oedd yn cynnwys pob un o’r 15 o chwaraewyr ac a fyddai’n goresgyn cryfder corfforol pac y Crysau Duon. Yn ôl John Dawes, “roedd Carwyn wedi bod eisiau chwarae’r dull hwnnw erioed”. Ond roedd dewis y chwaraewyr cywir yn hollbwysig i’w gynllun – a neb yn bwysicach na’r maswr.

“Dw i’n credu bod Barry yn ymgorffori rygbi 15 dyn,” meddai. “Nid dim ond am ei gicio, ond y ffordd y byddai’n rheoli’r gêm. Roedd e’n gwbl naturiol. Doedden nhw ddim wedi cael ei weld e ryw lawer cyn hynny. Ond yr hyn wnaeth e oedd dangos gêm gyflawn y maswr a sut i’w chwarae hi. Nid yn unig roedd e wedi gallu rheoli’r gêm ond yn ffodus i ni, fe wnaeth e bopeth yn iawn ar yr amser iawn.”

Ochr yn ochr â sgiliau’r maswr, roedd gan y Llewod “o bosib y chwaraewr gorau yn y byd”, yn ôl John Dawes, sef Gareth Edwards.

“Dyma bartneriaeth go iawn. Fe wnaethon nhw gyfuno’n wych. Fe allech chi hefyd grybwyll, ymhlith yr olwyr, Mike Gibson, David Duckham, JPR Williams… Fe wnaethon nhw i gyd gyfrannu. Dyna pam enillon ni.”

Ond mae’n rhaid crybwyll enwau eraill hefyd – Gerald Davies, John Bevan a Derek Quinnell yn eu plith. Fel yr eglurodd John Dawes, “roedd agwedd y chwaraewyr eraill yn bwysig hefyd. Wnaethon ni ddim cilio a chuddio a gwneud dim. Roedd rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu, ac fe dalodd ar ei ganfed.

“Roedd John Bevan yn un o’r olwyr hynny oedd wedi datblygu gydol y daith. Fe ddaeth e’n chwaraewr rhyngwladol o’r radd flaenaf ac roedd e’n boblogaidd iawn yn Seland Newydd ac yn un i’w wylio oherwydd fe allai e sgorio ceisiau.

“Pan fo gyda chi chwaraewyr fel Gerald Davies yn y tîm, os ydych chi’n ddigon ffodus i gael ambell gais ganddo fe, fe fyddwch chi’n chwarae â hyder. Dyna oedd gyda ni. Ac roedd gyda ni lawer iawn mwy na dim ond Gerald. Roedd Dave Duckham yn un arall, JPR, Mike Gibson… Pob un ohonyn nhw â hud yn perthyn iddyn nhw oedd wedi codi ofn ar y Crysau Duon wrth i’r daith fynd rhagddi. Doedden nhw ddim wedi disgwyl gweld y fath ddoniau.

“Doedden nhw’n sicr ddim yn credu y bydden ni’n ennill y gyfres pan gyrhaeddon ni yno. Yna fe gollon ni’r gêm gyntaf ac fe roddodd hynny hyder iddyn nhw. Ond doedd hi ddim yn ergyd i ni. Aethon ni ymlaen o’r fan honno, a dw i ddim yn credu ein bod ni wedi colli ar ôl hynny tan ddiwedd y daith.”

Roedd buddugoliaeth y Llewod o 2-1 yn y gyfres yn ddigon i ddychryn y Crysau Duon, ac fe arweiniodd at dro ar fyd yn null Seland Newydd o chwarae rygbi hefyd, meddai.

“Doedden nhw ddim yn ei ddisgwyl, ond mi oedden nhw’n ei werthfawrogi fe. Ers hynny, dw i’n credu eu bod nhw wedi rhoi sglein ar eu gêm ac mae hynny’n golygu bellach eu bod nhw lawer iawn mwy anodd i’w curo nag yr oedden nhw bryd hynny.”