Mae Plaid Cymru wedi galw am sicrwydd y bydd gwasanaethau fasgwlar yn y gogledd yn cael eu rhoi yn ôl dan fesurau arbennig.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Chwefror 8), dywedodd Rhun ap Iorwerth, dirprwy arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd, na allai “gredu’r hyn roedd yn ei ddarllen”, a galwodd am fesurau arbennig i “sortio’r llanast hwn”.
Dywed Rhun ap Iorwerth fod gwersi ynghylch canoli gwasanaethau o fewn y bwrdd iechyd yn “wers ar gyfer Cymru gyfan”.
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod rhaid i ymdrechion i ganoli gwasanaethau adlewyrchu anghenion pob cymuned unigol.
‘Sortio’r llanast’
“Rhoi triniaethau pan na ddylid bod wedi gwneud hynny, diffyg cyfathrebu ofnadwy gyda chleifion a’u teuluoedd, a chadw cofnodion mor wael nes bod ymchwilwyr y Coleg Brenhinol methu dod o hyd i’r hyn ddigwyddodd i rai cleifion – mae’r adroddiad diweddar ynghylch gwasanaethau fasgwlar Betsi Cadwaladr yn gywilyddus, torcalonnus, a chwbl ddamniol,” meddai Rhun ap Iorwerth, sydd hefyd yn llefarydd iechyd Plaid Cymru.
“Mae yna gwestiynau ynghylch a oedd Betsi Cadwaladr yn barod i ddod allan o fesurau arbennig – cyn yr etholiad diwethaf, yn gyfleus iawn – ac rydyn ni angen sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd gwasanaethau fasgwlar yn y gogledd yn mynd yn ôl dan fesurau arbennig, gydag ymyrraeth wedi’i dargedu i sortio’r llanast hwn.”
Diwygio’r bwrdd iechyd
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, wnaeth Mark Drakeford ddim cytuno â’r Ceidwadwyr Cymreig mai diwygio’r bwrdd iechyd fyddai’r ffordd orau i’w gryfhau.
Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael pedwar prif weithredwr gwahanol, chwe chadeirydd, ac wedi bod gweld ymyrryd wedi’i dargedu ers cael ei ffurfio yn 2009.
“Mae perfformiad bwrdd iechyd Gogledd Cymru yn gwbl annerbyniol ac mae methu ag ymddiheuro ac yna gwrthod diwygio’r bwrdd iechyd pan mae’r problemau mor eang yn eithriadol o esgeulus,” meddai Andrew RT Davies.
“Bob mis, mae yna gyhoeddiad newydd sy’n dangos nad yw darpariaeth iechyd yng ngogledd Cymru’n agos at y safon mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gan fanylu am drawma cleifion a digalondid staff, gan arwain at anniddigrwydd y genedl.
“Mae’r Llywodraeth Lafur wedi hen golli’i gafael ar y gwasanaeth iechyd a ni ddylai neb orfod rhoi eu ffydd mewn llywodraeth sydd gan record gyson o adael i bethau yng Ngogledd Cymru fynd yn gynyddol waeth.
“Oes yna wirioneddol ddisgwyl i ni gredu y gwneith pethau wella?”