Mae lansio’r animeiddiad cyntaf sy’n egluro’r cysyniad o gadernid iaith i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn gam “pwysig iawn” i godi hyder siaradwyr Cymraeg o bob gallu, yn ôl Daniela Schlick o Fentrau Iaith Cymru.
Prosiect LISTEN sy’n gyfrifol am yr amineiddiad, sy’n trafod yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘ymddygiad ymostyngol’ – lle mae siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn rhy barod i droi at yr iaith fwyafrifol.
O ganlyniad, maen nhw’n colli cyfleoedd i siarad yr iaith leiafrifol gyda siaradwyr eraill.
Mae’r prosiect hefyd yn ceisio annog siaradwyr Cymraeg o bob gallu i fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r iaith.
Mae IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith yn un o bartneriaid y prosiect LISTEN ac IAITH sy’n gyfrifol am addasu hyfforddiant ‘Linguistic Assertiveness’ a ddatblygwyd yn Valencia’n wreiddiol ar gyfer cyd-destun Cymru.
Dywedodd Kathryn Jones, Cyfarwyddwr IAITH: “Mae IAITH wedi bod yn treialu cyrsiau Cadernid Iaith gyda’r Mudiad Meithrin a Mentrau Iaith Cymru yn ddiweddar ac mae ymateb cyfranogwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn.
“Rydym yn gyffroes y bydd yr adnoddau a chyrsiau cadernid iaith yr ydym yn eu datblygu yn fodd i ysgogi newid ymddygiad a chynyddu defnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith.
“Cysylltwch gyda post@iaith.cymru am ragor o wybodaeth am brosiect LISTEN a’n hyfforddiant Cadernid Iaith.”
Rydym wrth ein boddau i lansio’r animeiddiad cyntaf sy’n egluro’r cysyniad o #cadernidiaith i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol gan bob un ohonom sy’n gweithio ar y Prosiect #LISTEN. @IAITH @Golwg360 @NewyddionS4C @BBCCymruFyw @thehuwedwards @Cymdeithas https://t.co/ANdsZDrO85
— LISTEN Project (@LISTENProject1) February 8, 2022
“Creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg”
“Mae’n bwysig iawn fel bod Cymry Cymraeg yn ymwybodol o hyn a bod ganddyn nhw hawl i ddefnyddio’r iaith,” meddai Daniela Schlick wrth golwg360.
“O ran Mentrau Iaith, be’ rydan ni yn ei wneud ydi creu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
“Mae rhywfaint o newid ymddygiad wastad yn rhan o’r peth, wrth gwrs, oherwydd mae’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn cynyddu’r hyder ac wedyn maen nhw’n ei ddefnyddio fo fwy.
“Felly mae o’n broses tymor hir sydd angen amser ac mae o’n bwysig rhoi amser i bobol, peidio poeni am gywirdeb ac yn y blaen, jyst gadael i bobol siarad boed nhw’n ddysgwyr, siaradwyr iaith gyntaf neu’n bobol sy’n dod yn ôl at yr iaith.
“Mae isio bod yn amyneddgar gyda phobol hefyd.”
‘Rhaid cyrraedd pobol’
Faint o hwb mae Daniela Schlick yn credu fydd y prosiect i bobol sy’n siarad yr iaith mewn ardaloedd llai Cymreig, felly?
“Cwestiwn da! Wel, mae’n rhaid cyrraedd y bobol yna,” meddai.
“Ond dw i hefyd yn meddwl bod o’r un mor berthnasol mewn rhywle fel Bethesda [lle mae hi’n byw], achos yma hefyd mae pobol yn meddwl ‘O dydi pobol ddim yn fy nallt i’n iawn’ ac yn troi at y Saesneg yn yr un modd, ond nid mwy am eu bod nhw’n meddwl ‘O na, dydyn nhw ddim yn siarad fel fi’.
“Dw i’n meddwl ei fod (y prosiect) yn berthnasol i bawb achos mae o’n codi ymwybyddiaeth o sut mae ymddygiad pawb yn gallu gwneud gwahaniaeth bach – dyna ydi’r pwynt dw i’n meddwl.”
‘Cychwyn pob sgwrs yn Gymraeg’
“Yn bersonol, dw i wastad yn cychwyn pob sgwrs yn y Gymraeg lle bynnag dw i’n mynd,” meddai wedyn.
“Mae wastad modd troi at y Saesneg ond os ydan ni’n cychwyn yn y Saesneg, wel dyna fydd y sgwrs wedyn, ynde.
“Yn y sefyllfa sy’n cael ei disgrifio yn y fideo, mae o’n anodd, dydi o ddim ots faint o siaradwyr o’r un iaith sydd yno, os oes yno un ddim yn ffitio mewn mae pawb yn newid ar gyfer un person a dw i ddim yn gwybod os oes yno ffordd hawdd o gwmpas hynny.
“Beth sydd angen o bosib ydi codi ymwybyddiaeth ymhlith y siaradwyr di-Gymraeg am yr iaith a dweud, ‘Os ydan ni’n siarad Cymraeg efo’n gilydd, dydan ni ddim yn ceisio dy adael di allan.’
“Ond does dim ateb syml, beth sy’n bwysig ydi canolbwyntio ar yr hyn rydan ni’n gallu ei newid neu lle rydan ni’n gallu cefnogi pobol.”
‘Ymlacio wrth ddysgu’r iaith’
Mae Daniela Schlick yn credu y gallai digwyddiadau llai ffurfiol mae Mentrau Iaith Cymru yn eu trefnu, megis teithiau cerdded neu gigs cerddoriaeth, roi amgylchedd gwell i bobol fagu hyder yn y Gymraeg.
“Does neb yn beirniadu, mae pawb yn gwerthfawrogi bod pobol yn trio yn y lle cyntaf, mae’n rhoi cyfle iddyn nhw siarad mwy o Gymraeg,” meddai.
“Mae hefyd yn dibynnu ym mha ardal ydach chi, dw i’n byw ym Methesda, Gwynedd, sy’n grêt achos dw i’n mynd allan o’r drws ac yn siarad Cymraeg.
“Ond wrth gwrs, mae yno ardaloedd lle does yno ddim gymaint o gyfleoedd ac mae pobol yn gwerthfawrogi hynny.
“Mae rhoi sefyllfa lle maen nhw’n gallu ymlacio yn bwysig iawn – bod rhywbeth yn digwydd ac yn digwydd bod yn digwydd drwy’r Gymraeg.”