Mae’r Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau Romani yng Nghymru’n dweud eu bod nhw wedi’u “ffieiddio” gan sylwadau’r digrifwr Jimmy Carr am sipsiwn yn ei sioe Netflix His Dark Material.

Yn y sioe, fe ddywedodd mai elfen “bositif” oedd yn deillio o’r Holocost oedd fod miloedd o sipsiwn wedi’u lladd.

Mae ei sylwadau ar lwyfan sioe fyw wedi ennyn cryn dipyn o ymateb, ac mae’r digrifwr ei hun yn dweud ei fod yn disgwyl cael ei “ganslo” yn sgil y ‘jôc’ honedig.

Mae Philip Pullman, awdur y gyfrol His Dark Materials a gafodd ei fagu’n faciwi ger Harlech, wedi gofyn iddo newid enw ei sioe yn sgil yr helynt.

‘Ffiaidd’

“Mae RCAC wedi’i ffieiddio gan y sylwadau bod cyfeiriad at y Sipsiwn – Roma, Sinti, Manouche, Gitanes a chymunedau Romani eraill ledled Ewrop feddianedig ac mewn gwledydd sydd â llywodraethau ffasgaidd oedd wedi’u cynghreirio â’r Almaen Natsïaidd – yn y fath fodd giaidd a chaled, heb ystyried poen ac erchylltra y byddai’r sylwadau hyn yn ei achosi i’r deuddeg miliwn o bobol yn Ewrop,” meddai Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau Romani yng Nghymru.

“Dydy’r Holocost ddim yn bwnc ar gyfer setiau comedi, a dydy bychanu’r dioddefaint enfawr a gafodd ei orfodi ar Iddewon a’r Sipsiwn gan y Natsïaid a’u tebyg ddim yn rhywbeth i wneud jôc yn ei gylch o dan unrhyw amgylchiadau.

“Arweiniodd yr atgasedd at bobol Romani a Sinti ledled Ewrop yn y cyfnod 1936 hyd at 1945 at hil-laddiad o leiaf 500,000 o bobol Romani, a llawer iawn mwy, fwy na thebyg.

“Bob blwyddyn, ar Ionawr 27, mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn cofio’r miliynau o Iddewon a ‘Sipsiwn’ (Roma a Sinti) a gafodd eu difa gan y gyfundrefn Natsïaidd a’u cynghreiriaid ffasgaidd yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop.

“Mae’r Roma a’r Sinti hefyd yn galaru colli cynifer o bobol a difa cymunedau cyflawn yn y gwersylloedd Natsïaidd, y gorymdeithiau marwolaeth Rwmanaidd, a chriwiau marwolaeth yr SS einzatsgruppen a lofruddiodd gannoedd o filoedd o bobol i gyd, ar Awst 2, y noson pan welwyd dileu’r ‘Zigeuner lager’, gwersyll y Sipsiwn, yn Auschwitz yn 1944.

“Hyd yn oed yng nghanol y 1930au, roedd cyfreithiau glanhau hiliol yn cael eu pasio i wahanu ‘Sipsiwn’ oddi wrth y poblogaethau mwyafrifol yn Sweden, yr Almaen a llefydd eraill.

“Y llethr yma tuag at ffasgiaeth, dymchwel democratiaeth mewn rhannau helaeth o Ewrop a’r cynnydd sydyn mewn meddylfryd fiolegol hiliol sy’n arwain at hil-laddiad sy’n gwneud Ewrop cyn 1945 yn ‘gyfandir tywyll’, chwedl Mark Mazower.”

‘Cymdeithas agored, oddefgar’

“All cymdeithas agored, oddefgar ddim dewis a dethol pa grwpiau sy’n haeddu goddefgarwch a dealltwriaeth,” meddai wedyn.

“Mae pob unigolyn sy’n byw ar ein planed hardd yn haeddu cael eu barnu ar eu geiriau a’u gweithredoedd eu hunain, ac nid ar eu hil, eu cenedl, eu crefydd, eu rhywioldeb na’u cefndiroedd teuluol.

“Gadewch i ni sefyll gyda’n gilydd a bod yn falch o’r amrywiaeth anhygoel y mae’r ddynoliaeth yn eu cwmpasu”.

Sut dylen ni gofio’r Shoah?

Heini Gruffudd

“I’r rhai ohonom o dras rhannol Iddewig, mae’r cofio ar lefel bersonol. Bu farw Käthe fy mam-gu yng ngwersyll Ravensbrück, i’r gogledd o Berlin, ryw gant ag ugain milltir o Wittenberg, lle y bu’r teulu, a Luther, yn byw.”