Mae Benedict Cumberbatch, Andrew Garfield, Olivia Colman, Judi Dench a Kenneth Branagh ymysg y sêr sydd wedi’u henwebu am Oscar eleni.
Ffilm gowboi The Power of the Dog, sy’n cynnwys Benedict Cumberbatch, sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o enwebiadau eleni, gyda deuddeg.
Bydd Benedict Cumberbatch yn mynd benben â Will Smith am ei rôl yn King Richard, Andrew Garfield am ei ran yn Tick, Tick… Boom!, Javier Bardem am ei ran yn Being The Ricardos, a Denzel Washington am ei rôl yn The Tragedy of Macbeth.
Jane Campion, cyfarwyddwr The Power of the Dog, yw’r ddynes gyntaf i gael ei henwebu ddwywaith am wobr cyfarwyddwr gorau yn yr Oscars.
Mae Judi Dench a Ciaran Hinds wedi derbyn enwebiadau am eu perfformiadau yn ffilm hunangofiannol Kenneth Branagh, Belfast.
Mae’r ffilm ddu a gwyn, sydd wedi’i hysbrydoli gan blentyndod yr actor yng Ngogledd Iwerddon yn y 60au, wedi’i henwebu am y ffilm orau, ac mae Kenneth Branagh wedi’i enwebu yn y categori cyfarwyddwr gorau a ffilm wreiddiol orau.
Enillodd Olivia Colman y wobr actores orau yn 2019 am ei rôl yn The Favourite, ac mae hi wedi cael ei henwebu yn yr un categori eleni am ei rôl fel mam yn meddwl am ei gorffennol yn The Lost Daughter.
Bydd hi’n cystadlu â Kristen Stewart am ei pherfformiad fel Diana, Tywysoges Cymru yn Spencer, Jessica Chastain am ei rhan yn The Eyes of Tammy Faye, Penelope Cruz am ei rôl yn Parellel Mothers, a Nicole Kidman am ei rhan yn Being the Ricardos.
Fe fydd yr Oscars yn cael eu cynnal ar 27 Mawrth yn Los Angeles.