Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r darlledwr ac awdur Bamber Gascoigne, sydd wedi marw’n 87 oed

Mae’n cael ei gofio’n bennaf am gyflwyno’r cwis University Challenge.

Bu farw yn ei gartref yn Richmond ar ôl salwch byr, cyhoeddodd ei deulu.

Yn ystod ei yrfa roedd Bamber Gascoigne hefyd wedi cyflwyno nifer o gyfresi dogfen ac wedi ysgrifennu sawl llyfr.

Dywedodd ei wraig Christina, y bu’n briod â hi am 55 mlynedd: “Cafodd Bamber a minnau 62 mlynedd wych gyda’n gilydd, yn llawn ffrindiau ac anturiaethau. Wnaethon ni ddim ffraeo erioed, dim hyd yn oed pan wnes i droi’r car drosodd tra roedden ni’n gyrru i India.

“Roedd yn ddyn hynod o hael ac roedd wrth ei fodd yn rhannu rhoddion ei fywyd ei hun ag eraill.

“Am 30 mlynedd, fe wnaethon ni nofio yn yr afon bob dydd pan oedd hynny’n bosib (dim ond yn yr haf). Roedd wrth ei fodd ag opera ac roedd wrth ei fodd y gallai gael tŷ opera yn yr ardd a etifeddodd gan ei fodryb, Mary Roxburghe.”

Yn 2014 roedd Bamber Gascoigne wedi etifeddu stad West Horsley Place  yn Surrey gan ei fodryb, Duges Roxburghe, ac roedd Grange Park Opera wedi adeiladu tŷ opera yn y gerddi.

‘Unigryw’

Fe ddechreuodd Bamber Gascoigne gyflwyno University Challenge yn 1962 hyd at 1987 pan ddaeth y gyfres i ben. Cafodd ei hatgyfodi yn 1994 gyda Jeremy Paxman wrth y llyw.

Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi i Bamber Gascoigne gan gynnwys yr actor Stephen Fry, oedd wedi cystadlu yn University Challenge yn 1980 pan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Dywedodd bod y cyflwynydd yn “garedig a chynnes” tuag at y “myfyrwyr nerfus” ar y rhaglen.

Dywedodd Peter Gwyn, cynhyrchydd presennol University Challenge, fod rôl Gascoigne yn y sioe gwis wedi helpu i’w sefydlu fel “y sefydliad y mae erbyn hyn”.

“Mae pawb ar dîm University Challenge wedi tristau o glywed am farwolaeth Bamber, ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn mynd at ei deulu a’i ffrindiau,” meddai.

“Roedd Bamber yn wahanol i unrhyw un arall ar y teledu pan ddechreuodd y rhaglen yn ôl yn 1962… Roedd yn bresenoldeb unigryw ym myd darlledu ym Mhrydain a bydd colled fawr ar ei ôl.”