Mae murlun Banksy yn nhref Port Talbot yn cael ei symud i leoliad diogel yn dilyn fandaliaeth, yn ôl perchennog y gwaith.

Mae ‘Seasons Greetings’ yn furlun sy’n cyfleu neges am effaith llygredd ar gymunedau, ac fe ymddangosodd ar wal garej gweithiwr dur ar gyrion y dref cyn y Nadolig yn 2018.

Cafodd ei brynu maes o lawr gan y gwerthwr celf John Brandler, oedd wedi cytuno i gadw’r gwaith yn ei leoliad gwreiddiol am dair blynedd.

Talodd Llywodraeth Cymru am symud y gwaith i siop wag fel bod modd i’r cyhoedd ei weld yn ddiogel.

Ond mae e bellach yn cael ei symud i storfa dros dro, cyn cael ei fenthyg i sefydliad diwylliannol i’w arddangos i’r cyhoedd tra bod trafodaethau am ei ddyfodol hirdymor yn parhau.

“Ers i Seasons Greetings ymddangos dair blynedd yn ôl, mae ffanatics wedi cecisio dinistrio’r darn anhygoel hwn o gelf,” meddai Simon Brandler.

“Rydyn ni’n ei symud i’w gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, lle mae modd ei weld a’i fwynhau, ond nid ei fandaleiddio.”

Yn ôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot, byddai ei gadw yn y dref yn golygu talu £100,000 y flwyddyn i Simon Brandler i’w fenthyg e ganddo.

Ond mae trigolion y dref yn dweud bod “cyfle wedi’i golli” i adfywio’r dref gan fanteisio ar y murlun, ac mae nifer yn beirniadu’r penderfyniad i adael i’r gwaith fynd o Gymru i Loegr.

Bydd yn cael ei symud yn ei gyfanrwydd, ac mae Cymdeithas Gwarchod Banksy yn gobeithio codi arian drwy ollwng gweithiau celf mewn lleoliadau ar hap er mwyn cynnal a chadw Season’s Greetings a gweithiau eraill gan yr arlunydd, gan sicrhau bod modd parhau i’w arddangos i’r cyhoedd.