Bydd rhaglen arbennig ar S4C yn dangos sut mae dylanwadwr blaenllaw ar y cyfryngau cymdeithasol yn helpu pobol i fyw bywyd iach.

Gyda mwy o wasanaethau yn symud ar-lein, mae ein dibyniaeth ar dechnoleg yn cynyddu, ond sut beth yw rhannu bron popeth gyda’r byd trwy’r we?

Dyma fydd Jess Davies, dylanwadwr 28 mlwydd oed, yn ei drafod mewn rhaglen ddogfen newydd, DRYCH: Bywyd Jess Arlein, heno (nos Sul, Chwefror 6, 21:00).

“Dwi’n ddylanwadwr – dwi’n postio lluniau a rhannu be dwi’n gwneud, gwisgo, bwyta a meddwl gyda dros 150,000 o ddilynwyr,” meddai.

“Weithiau mae cwmnïau yn talu fi i bostio ac weithiau dwi jyst yn postio i ddechrau sgwrs bwysig.

“Dwi wedi byw’r degawd diwethaf ar y cyfryngau cymdeithasol – fy mywyd cyfan fel oedolyn, ac i fod yn onest dwi’n caru fo.

“Diolch i Instagram dwi wedi teithio’r byd fel model, cwrdd â phobl amazing a lansio fy ngyrfa fel cyflwynydd. Dwi’n addicted.”

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i addysgu a chefnogi

Yn wreiddiol o Benrhyn-coch ger Aberystwyth, bydd Jess Davies yn pwyso a mesur y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Fel rhan o’i hymdrech i addysgu a chefnogi, bydd hi’n mynd yn ôl i Ysgol Gynradd Penrhyn-coch, lle bu hi’n ddisgybl, i gynnal gweithdy gyda’r genhedlaeth nesaf ar sut i ddefnyddio’r we yn ddiogel.

Bydd hi hefyd yn cwrdd â’r arbenigwr cyfryngau cymdeithasol, Owen Williams, i weld pa dechnegau mae’r cwmnïau mawr yn eu defnyddio i geisio ein “caethiwo”.

Am y tro cyntaf erioed, mae hi’n trafod ei pherthynas gymhleth â bwyd, a’r cyfnod anodd yn ei bywyd pan oedd hi’n dioddef o anhwylder bwyta.

Ar y pryd, roedd hi’n teimlo o dan bwysau i gydymffurfio gyda disgwyliadau’r cyfryngau cymdeithasol i edrych yn ‘berffaith’.

Er mwyn gallu helpu eraill i fyw bywyd iach arlein, bydd hi’n siarad â phobol sydd wedi profi’r chwerw a’r melys, yn ogystal ag edrych ar ei rôl a’i chyfrifoldebau hi fel dylanwadwr.

“Dwi wedi brwydro gyda delwedd corff, trolio a heriau iechyd meddwl, a nawr dwi’n ddylanwadwr, dwi’n poeni – ydw i’n rhan o’r broblem?” meddai.

Pryderon am y we

Mae hi’n dweud bod ei phostiadau angerddol am ffeministiaeth yn cael 100 o likes, lle mae postiadau ohoni mewn bikini yn cael eu hoffi miloedd o weithiau.

Felly, oes gyda ni fel unigolion a chymdeithas hefyd rôl mewn sicrhau llesiant defnyddwyr, a’r bobol sy’n creu’r cynnwys?

Mae Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, yn nodi bod tri ym mhob deg plentyn rhwng pump a saith oed yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, a bod o leiaf hanner ohonyn nhw ar-lein.

Mae’r rhan fwyaf yn gwneud ffrindiau, yn dysgu ac yn cael hwyl, ond mae hi hefyd yn nodi bod 50% o blant 12 i 15 oed wedi cael profiadau negyddol fel bwlio, hiliaeth, rhywiaeth neu aflonyddu.

Fel person sy’n dwlu ar cyfryngau cymdeithasol, mae Jess Davies yn awyddus i rannu’r buddiannau i ddefnyddwyr o bob oedran, yn enwedig y gallu i godi ymwybyddiaeth, creu cymunedau a bod yn gymdeithasol.

Cynrychiolaeth

Yn ôl Amber Davies, dylanwadwr arall sydd ag anabledd cudd, mae platfformau fel Instagram yn hollbwysig i bobol ddarganfod cynrychiolaeth.

Mae’r chwaraewr rygbi Ashton Hewitt, sydd wedi dioddef cam-drin hiliol arlein a bellach yn helpu dioddefwyr eraill, yn cytuno.

“Mae’r we yn gallu bod yn lle amazing i ffeindio cymuned dy hun” meddai Jess.

“Ond, mae’n amser i mi ail-feddwl fy mywyd ar-lein.

“Dwi eisiau gwneud gwahaniaeth, dwi eisiau bod yn rhan o’r ateb wrth beidio postio cynnwys gall fod yn beryglus.

“A dwi’n credu dylai lot mwy o ddylanwadwyr eraill wneud hwnna.”

DRYCH: Bywyd Jess Arlein, dydd Sul, Chwefror 6 am 9.00yh.