Mae sylfaenydd gwefan gerddoriaeth annibynnol Klust yn dweud ei fod am “gefnogi artistiaid sy’n torri drwodd” a “rhoi sbin gwahanol ar bethau”.

Owain Elidir Williams ei hun sydd wedi ariannu’r fenter, gan gyflogi Rich Chitty i greu’r wefan, tra bod Elis Povey wedi creu’r dyluniadau.

“Dw i wastad wedi dilyn miwsig Cymraeg, wedyn bwriad Klust ydi trio rhoi rhyw sbin gwahanol ar bethau,” meddai wrth golwg360.

“Mae gen ti Selar ’does, a Sôn am Sîn, a rŵan ti’n gweld gwefannau ychydig yn fwy niche fatha Ogof neu Buzz Magazine.

“Felly ia, bwriad Klust ydi rhoi sbin gwahanol ac ella cefnogi artistiaid sy’n torri drwodd o bosib.

“Un peth sy’n sefyll allan efo Klust o’i gymharu ag ella Selar neu Sôn am Sîn ydi bod yno fwy o ystyriaeth i ochr weledol pethau.

“Dw i’n eithaf obsessed efo sut mae pethau yn edrych ac ati felly roedd cael Elis Povey i wneud y designs ac ati yn grêt achos mae ei designs o jyst yn briliant.

“Wedyn ges i Rich i wneud y wefan, ac ia, dw i jyst isio i bob dim edrych yn neis.

“Mae gen ti lot o wefannau sydd jyst yn anodd sbïo arnyn nhw felly ro’n i isio Klust fod yn wefan reit neis.”

Logo Klust

“Rhywbeth reit naturiol”

Mae creu’r wefan wedi bod yn rhywbeth “reit naturiol”, meddai wedyn.

“Dw i wedi bod yn eistedd ar y syniad yma ers sbel i ddweud y gwir.

“Dros y lockdown bues i’n sgwennu darnau barn am gerddoriaeth i Let it Happen aballu.

“O hynna ddaru diddordeb fi mewn sgwennu godi a dw i’n meddwl ei fod o’n rhywbeth reit iach i artistiaid sydd o bosib ddim yn mynd i gael sylw yn syth.

“Ac mae gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg a mynd i gigs yn rhywbeth dw i wastad yn ei wneud beth bynnag, felly mae o’n rhywbeth reit naturiol i fynd ati i sgwennu am y pethau ‘ma I suppose.”

Mix Mercher

Un peth sy’n sefyll allan ar wefan Klust yw’r Mix Mercher lle mae artist, hyrwyddwr neu label yn dewis detholiad o ganeuon ac yna’n enwebu rhywun i wneud yr un fath yr wythnos wedyn.

“Y bwriad tu ôl i’r holl beth ydi creu rhyw fath o gymuned,” meddai.

“Pan ti mewn gigs Cymraeg, ti’n dueddol o weld yr un bobol felly’r syniad ydi tynnu’r bobol yna ynghyd i ddod draw a dilyn y wefan a theimlo bo’ nhw’n rhan o rywbeth hefyd.

“Dw i’n meddwl bod o’n grêt cael rhyw fath o linyn efo’r dewisiadau ac mae o’n cŵl bo’ nhw’n mynd i fod yn enwebu’r person nesa.

“Wythnos diwethaf gafon ni Malan i’w wneud o ac wedyn mae hi wedi enwebu Gwenno Morgan a drwy hynna mae o’n exciting fwy na dim byd achos dw i ddim yn gwybod ar ba drywydd mae o’n mynd i fynd ac mae o’n ddiddorol i bobl sy’n dilyn y wefan hefyd.

“Ac mae o’n rhoi cyfle i bobl ddarganfod cerddoriaeth newydd drwy ddewisiadau pobol eraill, achos dyna be dw i wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd.”

Datblygu’r brand

Mae’n uchelgais ganddo i ddatblygu brand Klust dros amser.

“Dw i wastad wedi bod eisiau gwneud rhywbeth fel hyn a dw i’n meddwl mai’r uchelgais yn y bôn ydi datblygu’r brand ac ella dod yn hunan gyflogedig,” meddai.

“Mae’r ymateb wedi bod yn grêt hyd yma, ro’n i’n meddwl bod hwn yn rhywbeth fyddai pobol eisiau i ddarllen.

“Ac mae’r gefnogaeth dw i wedi cael gan labeli ac artistiaid sydd wedi cysylltu neu afon DM yn sôn am gerddoriaeth sydd ganddyn nhw’n dod allan wedi bod yn dda.

“Mae o i gyd wedi bod yn well nag o’n i’n disgwyl a dweud y gwir.

“Dim ond gwefan ydi o, ond dw i’n meddwl bod yna sgôp i wneud rhywbeth mwy o bosib.”